Cyfle i fyfyrwyr gefnogi Tîm University Challenge Prifysgol Bangor gyda’i gilydd
Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor yn paratoi i gefnogi eu tîm yn rownd nesaf University Challenge mewn rhaglen i’w darlledu am 8.00 nos Lun 11 Chwefror.
Wedi iddynt lwyddo yn y rowndiau blaenorol yn erbyn Prifysgolion St Andrews a Durham, mae’r tîm bellach drwodd i’r rownd gogynderfynol ac yn wynebu Coleg Prifysgol Llundain.
Dechreuodd Tîm Bangor yn gryf yn y ddwy raglen a ddarlledwyd hyn yma. Yn yr un olaf yn erbyn Prifysgol Durham, rhoddodd eu hatebion ar bynciau mor eang â’r llygad, melysion a’r Peloponnese y tîm ar y blaen o’r cychwyn. Daliodd Prifysgol Durham i fyny â nhw’n raddol gan fod ar y blaen o un pwynt ar un adeg, dim ond i Dîm Bangor fynd ar blaen drachefn gan orffen y gystadleuaeth gyda sgôr o 175 i 165.
A fydd y rownd nesaf mor gynhyrfus â’r rhai diwethaf?
Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar sgrin fawr ym Mar Uno a hefyd yn Ystafell Gyffredin Neuadd Braint ar Safle Llety Ffriddoedd i roi cyfle i fyfyrwyr y Brifysgol gefnogi eu cyd-fyfyrwyr: Nina Grant, (Capten y Tîm); Simon Tomlinson, Mark Stevens ac Adam Pearce.
Meddai Llywydd Undeb Myfyrwyr Bangor, Antony Butcher: “Mae’n wych gweld mai Bangor ydy’r unig dîm o Gymru sydd wedi llwyddo i gyrraedd cyn belled yn y gystadleuaeth a’u bod yn cynrychioli Cymru. Rwy’n credu y dylai Bangor fod yn falch ohonynt.”
Llwyddodd Prifysgol Bangor i gyrraedd y rownd Gynderfynol ym 1999.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2013