Cyfle i Ymuno â Chyngor y Brifysgol
Mae Prifysgol Bangor yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb a cheisiadau gan unigolion sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer cael eu penodi i’r Cyngor, sef corff llywodraethu’r sefydliad. Mae hefyd yn chwilio am aelodau cyfetholedig ar gyfer y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau a hefyd y Pwyllgor Archwilio a Risg.
Fel yn achos pob Prifysgol siartredig, mae mwyafrif aelodau'r Cyngor yn aelodau annibynnol nad ydynt yn staff nac yn fyfyrwyr y Brifysgol. Mae'r aelodau'n cynnwys yr Is-Ganghellor, y Dirprwy Is-Gangellorion ac aelodau eraill a benodir gan staff y Brifysgol, cynrychiolwyr y myfyrwyr ac aelodau annibynnol. Cadeirydd y Cyngor yw'r Arglwydd Elis-Thomas AC.
Mae cyrff llywodraethol prifysgol yn cael eu rhoi yng ngofal arian cyhoeddus ac arian preifat, felly mae ganddynt ddyletswydd arbennig i gyflawni'r safonau uchaf o lywodraethu corfforaethol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau ac arddangos diffuantrwydd a gwrthrychedd wrth drafod eu busnes, a ble bynnag fo hynny'n bosib, dilyn polisi o wneud eu penderfyniadau mewn dull agored a thryloyw. Dylai fod gan ymgeiswyr y gallu i weithredu'n annibynnol ac yn wrthrychol ynghyd â'r parodrwydd i gyfrannu'n llawn at drafodaeth ar bob agwedd ar waith y Brifysgol.
Yn dilyn archwiliad sgiliau diweddar, mae'r Cyngor yn chwilio'n benodol am aelodau gyda sgiliau ym meysydd eiddo, cyllid a'r gyfraith yn ogystal ag unigolion â phrofiad rhyngwladol neu brofiad diweddar o Addysg Uwch. Fodd bynnag, croesewir ceisiadau gan bobl gyda sgiliau, gwybodaeth a phrofiad gwahanol.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac mae'r Cyngor yn annog ceisiadau o bob rhan o'r gymuned. Mae'r Cyngor yn awyddus i adlewyrchu'r corff myfyrwyr a byddai'n croesawu ceisiadau gan bobl o bob oedran a gan grwpiau a dangynrychiolir megis merched, unigolion gydag anabledd a phobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig.
Mae brwdfrydedd a diddordeb mewn Addysg Uwch yn ofynion allweddol ac, yn ddelfrydol, dylai fod gan ymgeiswyr brofiad rheolaethol neu dylent fod wedi dal swyddi uwch yn eu gweithle. Mae swyddogaeth aelodau annibynnol yn debyg i gyfrifoldebau cyfarwyddwyr anweithredol cwmnïau, ac mae'n gofyn am ymrwymiad o oddeutu 4-8 diwrnod y flwyddyn. Ni roddir tâl am wneud y gwaith ond bydd y Brifysgol yn talu costau teithio rhesymol.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen hon.
Y dyddiad cau i ddatgan diddordeb yw 6 Mai 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ebrill 2016