Cyfleu’r neges efo ‘Hei Pync sortia dy Jync’
Cynhaliwyd ymgyrch i fynd i’r afael â phroblem gwastraff diwedd y tymor ym Mangor gan y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr, Cyngor Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru.
Dyma’r ail dro i’r ymgyrch Hei Pync- Sorti Dy Jync’ gael ei gynnal, ble daeth partneriaid ynghyd i geisio ateb y broblem o wastraff a llanastr ar y strydoedd a mannau cyhoeddus eraill.
Y myfyrwyr eu hunain oedd yn gyfrifol am yr ymgyrch tafod yn y boch, dan arweiniad Cymdeithas Farchnata’r Brifysgol - Emma-Louise Jones, Ffion Haf Jones a Yueun Chung.
Casglwyd wyth tunnell o wastraff ychwanegol gan Dimau Casglu Gwastraff Cyngor Gwynedd ar ddiwedd y tymor o ardaloedd sydd wedi eu poblogi gan fyfyrwyr yn bennaf.
Roedd ‘Y Rhoi Mawr’ hefyd yn rhan o’r ymgyrch. Roedd hyn yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr i roi unrhyw eitemau nad oeddent eu hangen megis dilladau, llyfrau ac eitemau i’r tŷ i elusen. Eleni bu i’r myfyrwyr oedd yn gyfrifol am yr ymgyrch - Ilka Johanna Illers, Daryl Hughes ac Emma Robertson drefnu mannau casglu mewn ardaloedd sy’n boblogaidd gyda myfyrwyr. Llwyddodd yr ymgyrch i atal dros dunnell o nwyddau rhag cael eu taflu i ffwrdd, a chael eu claddu mewn safleoedd tirlenwi. Roedd elusennau y Groes Goch, lloches digartrefedd lleol ac elusennau merched ar eu hennill hefyd.
Dywedodd Sharyn Williams o Undeb Myfyrwyr Bangor:
“Mae ‘Hei Pync’ wedi bod yn ffordd wych i orffen blwyddyn arall o waith ein myfyrwyr yn y gymuned, gyda’r ymgyrch eleni yn adeiladu ar lwyddiant y llynedd drwy roi cyfle i fyfyrwyr marchnata’r Brifysgol greu cysyniad a datblygu’r ymgyrch gan roi ffordd arall i fyfyrwyr fod yn rhan o’r gymuned. Mae hyn yn dangos fod ein myfyrwyr yn frwdfrydig am gymryd rhan ym mhob agwedd o gadw Bangor yn brydferth ac yn lle cyfeillgar i fyw."
Ychwanegodd Gwenan Hine, Cofrestrydd Cynorthwyol ym Mhrifysgol Bangor, sydd yn arwain grŵp Prifysgol a Myfyrwyr Balchder Bangor: “Mae’n grêt gweld y Brifysgol, y gymuned myfyrwyr a Chyngor Gwynedd yn adeiladu ar lwyddiant yr ymgyrch llynedd ag yn gweithio gyda’i gilydd eto i gadw strydoedd Bangor yn lan ac yn daclus.”
Dywedodd Peter Simpson, Rheolwr Gwasanaethau Stryd Cyngor Gwynedd: “Am yr ail flwyddyn yn olynol mae Balchder Bangor wedi arddangos sut gall gweithio mewn partneriaeth agos helpu i wneud gwahaniaeth yn y ddinas.
“Dylai’r myfyrwyr gael eu canmol am redeg eu hymgyrch gwastraff diwedd y tymor eu hunain. Gadawodd hyn, ynghyd a chasgliadau gwastraff ychwanegol Cyngor Gwynedd dros Ŵyl y Banc, strydoedd mewn cyflwr glan a thaclus iawn.
“Byddwn yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y blynyddoedd i ddod a byddwn hefyd yn cysylltu â landlordiaid preifat, sydd â rôl yr ‘run mor bwysig wrth reoli gwastraff eu tenantiaid.”
Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Cadeirydd Balchder Bangor: “Ar ran Balchder Bangor hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig ar ymgyrch ‘Hei Pync’ eleni. Mae’r ail ymgyrch diwedd y flwyddyn wedi arddangos unwaith eto fod y canlyniad llawer yn well wrth i ni gyd ddod ynghyd gan wneud bywydau pawb ym Mangor llawer mwy dymunol.”
Mae is-grŵp Prifysgol a Myfyrwyr Balchder Bangor hefyd wedi sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau sydd yn anelu i wella ansawdd yr amgylchedd lleol yn y ddinas. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys ‘Ymgyrch Myfyrwyr yn eu Blodau’ ynghyd ac ymgyrch i annog a hyrwyddo ailgylchu ymysg myfyrwyr.
Cynhelir yr ymgyrchoedd hyn drwy gyllideb gan gynllun gwella amgylcheddol Trefi Taclus, Llywodraeth Cymru a Cyngor Gwynedd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cadwch Gymru’n Daclus.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â chynllun Trefi Taclus Cyngor Gwynedd cysylltwch â TrefiTaclus@gwynedd.gov.uk neu ffoniwch 01766 771000. Poster ar gael trwy cysylltu efo press@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2011