'Cyflwr natur' yn bwysig wrth benderfynu effaith newid hinsawdd
Nid yw modelau presennol ar sut y bydd llystyfiant yn ymateb i newid hinsawdd yn ystyried cyflwr y llystyfiant - p'un a yw'n aeddfed a sefydlog, neu eisoes yn ymateb i ddigwyddiadau sy'n tarfu arno.
Heddiw, yn Nature Communications (24 Mawrth 2015), cyhoeddwyd ymchwil newydd o un o'r arbrofion hiraf yn y byd ym maes newid hinsawdd. Cyllidir y gwaith hwn gan y Comisiwn Ewropeaidd ac fe'i harweinir gan y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg, ynghyd â phartneriaid Ewropeaidd, yn cynnwys Prifysgol Bangor. Yn achos Prysgdiroedd mae'r ymchwil yn awgrymu bod yr amser ers y tarfu diwethaf ar yr ecosystem yn effeithio ar eu hymateb i hinsoddau yn y dyfodol, ac y dylid ystyried hynny wrth ddarogan ymatebion ecosystem i newid hinsawdd.
Meddai'r Athro Bridget Emmet, Pennaeth y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg ym Mangor ac arweinydd y project ym Mhrydain:
"Mae'r gwaith yma'n rhoi tystiolaeth y gallwn fod yn gwneud ecosystemau'n fwy sensitif i newid hinsawdd wrth i ni darfu arnynt. Mae hynny'n rhoi her a chyfle i ni wrth i ni geisio canfod dulliau gweithredu i wneud ein cynefinoedd yn fwy gwydn i wrthsefyll newid hinsawdd a nodi'r rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf. Mae arbrofion hir dymor fel y rhain yn ffordd unigryw o edrych sut fydd y sefyllfa debygol yn y dyfodol, o ganlyniad anochel i newid hinsawdd sy'n deillio o nwyon tŷ gwydr sydd eisoes wedi cael eu gollwng i'r atmosffer."
Meddai Dr Andy Smith o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, Prifysgol Bangor, a fu'n gweithio ar gylchu biogeogemegol a deinameg cymunedau o blanhigion ar y safle ym Mhrydain:
"Mae ecosystemau prysgdir yn elfen bwysig o lystyfiant byd-eang ac Ewropeaidd, gan ddarparu gwasanaethau lluosog i ecosystemau, megis rheoli llifogydd a hinsawdd. Maent yn cadw carbon a darparu ecosystem i gynnal bioamrywiaeth, ac mae newidiadau amgylcheddol yn effeithio'n fawr arnynt."
Mae'r tir a orchuddir gan brysgdiroedd yn cynyddu mewn llawer o ardaloedd tir cras neu led-gras yn y byd oherwydd newidiadau mewn defnydd tir ac mae'n dod yn gynyddol bwysig i ystyried sut y gall tarfu gan bobl, neu ddigwyddiadau naturiol fel tân, neu effaith plâu ac afiechydon, effeithio ar y 'gwasanaethau' a ddarperir gan wahanol ecosystemau.
Yn ôl y darganfyddiadau, mae prysgdiroedd sy'n adnewyddu eu hunain yn dilyn achosion o darfu arnynt, yn fwy tebygol o ddioddef oddi wrth newid hinsawdd na phrysgdir na tharfwyd arno.
Daw'r awduron i'r casgliad y dylid cymryd y graddau y tarfwyd ar ecosystem i ystyriaeth wrth fodelu sut bydd planhigion yn ymateb i newid hinsawdd.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2015