Cyflwyno cyfres drama foes gyfoes ar BBC Radio 3
Bydd Sue Niebrzydowski, Uwch Ddarlithydd mewn llenyddiaeth ganoloesol yn Ysgol Llenyddiaeth Saesneg Prifysgol Bangor i’w chlywed yn cyflwyno cyfres o bum drama foes gyfoes ar BBC Radio 3 yr wythnos hon (15-19 Chwefror, 2016). Mae’r pum drama, sy’n ymdrin â chymedroldeb, eiddigedd, balchder, llid a chyfiawnder wedi eu hysbrydoli gan ddramâu moes y canoloesoedd ac yn archwilio cymaint y mae agweddau cyfoes tuag at bechod a rhinwedd wedi newid.
Roedd gan bobl y canoloesoedd nifer o gyfleon i brofi theatr. Roedd y ddrama ganoloesol yn bodoli ar sawl ffurf, ond erbyn hyn mae’r awduron gwreiddiol yn anhysbys. Roedd gorymdeithiau, dramâu mudchwarae, clerwyr a dawnswyr Morris yn bywiogi strydoedd y trefi.
Yng nghartrefi’r cyfoethog, perfformiwyd anterliwtiau (dramâu byrion) yn ystod gwleddoedd. Ymhell cyn cyfnod Shakespeare, roedd dramâu canoloesol yn cael eu perfformio mewn sgwariau marchnad, ar strydoedd dinasoedd, mewn eglwysi ac yng nghartrefi’r cyfoethog. Yn ôl Sue Niebrzydowski, addysgu oedd prif ddiben dramâu canoloesol a’r wers oedd sut i fyw bywyd Cristnogol da.
Prif nod y rhan fwyaf o theatr, dramâu, teledu a ffilmiau cyfoes yw diddanu. Mae’r ddrama ganoloesol yn diddanu wrth iddi ddysgu gwersi am fywyd. Mae’r pum drama radio, a’r adfywiad diweddar o’r ddrama Everyman, yn ein hatgoffa o berthnasedd y ddrama gynnar, a sut y gall y ddrama ddiddanu a rhoi rhywbeth i gnoi cil drosto o hyd.
Yn ôl Sue Niebrzydowski: “Mae cyfyng-gyngor moesol y ddrama ganoloesol mor berthnasol heddiw ag erioed. Mae atgyfodi dramâu moesol yr oesoedd canol a rhoi gwedd newydd iddynt yn dod â’r hen frwydr rhwng da a drwg yn fyw i gynulleidfa newydd.”
Mae’r dramâu i’w clywed ar BBC Radio 3 am 10.45 bob nos yr wythnos hon.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Chwefror 2016