Cyflwyno Gwobr Addysgu Uchaf y DU i Darlithwyr Bangor
Mewn seremoni wobrwyo’n ddiweddar derbyniodd yr Athro James Intriligator a Peggy Murphy o Goleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad Prifysgol Bangor eu Cymrodoriaeth Dysgu Cenedlaethol am ragoriaeth mewn addysgu a chefnogi dysgu mewn addysg uwch.
Ynghyd â 53 o staff eraill o sefydliadau addysg uwch ar draws Lloegr, Gogledd Iwerddon a Chymru, fe wnaethant dderbyn gwobr o £10,000 yr un i gydnabod eu rhagoriaeth. Bwriad y wobr yw hyrwyddo datblygiad proffesiynol Cymrodyr Dysgu Cenedlaethol mewn addysgu a dysgu neu agweddau ar addysgeg.
Yr Academi Addysg Uwch sy’n dyfarnu’r wobr, ac mae’r Cynllun Cymrodoriaethau Dysgu Cenedlaethol yn cydnabod a gwobrwyo addysgu a dysgu rhagorol; Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE), Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), a’r Adran Cyflogaeth a Dysgu yng Ngogledd Iwerddon (DELNI) sy’n cyllido’r cynllun.
Dywedodd yr Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-ganghellor, a oedd wrth ei fodd gyda’r canlyniad: "Unwaith yn rhagor, mae Prifysgol Bangor wedi cael canlyniad nodedig yn y cynllun Cymrodoriaethau Dysgu Cenedlaethol – drwy wobrwyo Peggy Murphy a James Intriligator. Rydym bellach wedi derbyn mwy o wobrau nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru, sy'n dystiolaeth bellach o ragoriaeth ein haddysgu. Roedd yn bleser mynd i’r seremoni wobrwyo, a gweld darlithwyr ardderchog yn cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion."
Mae James Intriligator yn Athro Arloesi a Seicoleg Defnyddwyr yn yr Ysgol Seicoleg. Yn arloesydd ym maes Seicoleg Defnyddwyr, mae James yn cyflwyno newyddbethau i bob dim y mae’n ei wneud – ac yn ysbrydoli eraill i wneud yr un peth. I ddisgrifio’r effaith a gaiff ef, roedd yn rhaid i fyfyrwyr ddyfeisio gwobr newydd ar gyfer James; yng Ngwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr 2012 AAU/UCM, defnyddiasant y categori ‘agored’ i ddatgan ei fod yn “Bencampwr Cydraddoldeb a Rhyddid.” Yn 2013, enillodd anrhydedd unigryw arall, sef yr academydd cyntaf o Fangor i gael cadair bersonol, nid ar sail ymchwil ond, yn hytrach, am waith arloesol ac effaith mewn ymchwil ac addysgu.
Mae James yn ceisio ysbrydoli a chefnogi’r holl fyfyrwyr y mae’n cyfarfod â hwy. Mae am i’w fyfyrwyr garu dysgu, ac felly’n mynd â hwy ar daith o brofiadau ym mhob darlith. Mae’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu: fideos, hysbysebion, astudiaethau achos, gwesteion, gemau, a chyfryngau cymdeithasol. Mae gan James arddull dysgu arloesol ac egnïol, a thrwy gydol ei yrfa mae wedi cael adolygiadau gwych.
Meddai James, “Mae’n anrhydedd mawr imi ennill y wobr hon. Diolch o galon i’m myfyrwyr rhyfeddol ers 10 mlynedd – mae’r modd y maent yn dysgu, eu hymroddiad a’u mwynhad yn gwneud y cyfan yn werth chweil. Ac rwy’n ddiolchgar i Brifysgol Bangor ac, yn benodol, i’r Ysgol Seicoleg, am roi rhyddid a chefnogaeth imi – a’r ddau beth hyn yn ofynnol ar gyfer addysgu arloesol.”
Mae Peggy Murphy yn Ddarlithydd Nyrsio a Thiwtor Derbyn yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd. Mae hi’n nyrs brofiadol ac wedi gweithio yn y DU ac yn Awstralia fel nyrs staff mewn gofal dwys, a dyrchafwyd hi’n brif nyrs mewn meddygaeth acíwt.
Yr hyn sy’n ganolog i’w gwaith yw’r awydd i ennyn chwilfrydedd myfyrwyr er mwyn magu hyder academaidd. Mae Peggy yn taeru bod gofal nyrsio o ansawdd uchel yn ddibynnol ar safon uchel o addysg nyrsio. Ei phrofiad personol o fod â dyslecsia sydd wedi dylanwadu ar ei hathroniaeth ynglŷn ag addysgu a dysgu. Mae Peggy yn teimlo’n angerddol tuag at addysg gynhwysol ac yn credu bod gwella addysgu a dysgu i ganiatáu am wahanol anghenion yn fuddiol i’r holl fyfyrwyr.
Meddai Peggy, “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill y Gymrodoriaeth Ddysgu Genedlaethol. Does dim llawer ers imi ddechrau gweithio ym Mhrifysgol Bangor, ac rwyf eisoes wedi synnu at y gefnogaeth rwyf wedi’i chael gan dîm yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd. Mae’r Ysgol yn lle egnïol i weithio ac, ers y cychwyn cyntaf, rwyf wedi cael fy nghynnwys ar nifer o fentrau addysgu a dysgu. Bu dull y bartneriaeth o wella profiad myfyrwyr yn hollbwysig yn fy natblygiad personol a phroffesiynol fy hun. Rwyf wedi cynhyrfu’n lân wrth y syniad o fod yn rhan o Gymdeithas y Cymrodyr Dysgu Cenedlaethol ac yn edrych ymlaen at rannu syniadau â chydweithwyr ynglŷn ag arfer da mewn addysg uwch.”
Bydd Peggy yn gwario’r ysgoloriaeth ar ddau brosiect, yn gyntaf bydd yn ymweld â Choleg Whitireia yn Seland Newydd lle mae ganddi gysylltiadau ag ymchwil nyrsio ac y bydd yn rhannu'r hyn a ddysgwyd. Yn ail mae'n bwriadu gweithio gydag Arweinwyr Cyfoed yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd er mwyn datblygu eu sgiliau a'u gallu i gefnogi myfyrwyr presennol yn y Brifysgol.
Dywedodd yr Athro Stephanie Marshall, Prif Weithredwr Yr Academi Addysg Uwch: "Mae bob amser yn gyfnod nodedig iawn wrth i ni groesawu 55 o athrawon addysg uwch rhagorol i mewn i’n teulu cynyddol o Gymrodyr. Nid yw eleni'n eithriad.
"Tra bod eu meysydd arbenigedd yn niferus ac amrywiol, yr hyn sy’n gyffredin i bob un yw eu hymrwymiad i ddysgu ac addysgu, eu hymroddiad i'w myfyrwyr, a'u dyfalbarhad i rannu eu harbenigedd gydag eraill. Yr hyn sy’n fy nharo’n ogystal am ein Cymrodyr Dysgu Cenedlaethol eleni yw eu parodrwydd i ddysgu oddi wrth eraill, gan ddangos bod dysgu i ni yn broses barhaus y gallwn i gyd elwa arni.
"Mae ein myfyrwyr yn haeddu'r profiad dysgu gorau posibl a chydweithwyr fel y rhain rydym yn eu hanrhydeddu heddiw a all wneud gwahaniaeth go iawn i'w dyfodol. Hoffwn longyfarch yr holl Gymrodyr llwyddiannus gan ddymuno pob llwyddiant iddynt yn eu profiadau dysgu ac addysgu."
Mae’r ddau’n ymuno â Dr Charles Buckley o’r Ysgol Addysg a Dr Fay Short o’r Ysgol Seicoleg fel aelodau o Brifysgol Bangor sydd wedi ennill y wobr hon.
Straeon perthnasol:
Prif Gymrodoriaeth i’r Academi Addysg Uwch
Darlithwyr Prifysgol Bangor yn Ennill Gwobr Addysgu Uchaf y DU
Darlithydd o Brifysgol Bangor i dderbyn Gwobr Addysgu y DU
Addysgwr sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg mewn addysg uwch yn derbyn gwobr bwysig
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2014