Cyflwyno Pennaeth newydd yr Ysgol
Cyhoeddir yr Athro Enlli Môn Thomas fel Pennaeth newydd Ysgol Addysg Prifysgol Bangor.
Ymunodd yr Athro Enlli Môn Thomas â’r Brifysgol ym 1999 fel ymchwilydd ôlddoethurol yn yr Ysgol Seicoleg. Symudodd i weithio i’r Ysgol Addysg yn 2007 a daeth yn uwch ddarlithydd yn 2012. Mae rhan helaeth o’i gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar gaffael dwyieithrwydd Cymraeg a Chymraeg-Saesneg ymhlith plant, o safbwynt seico-ieithyddol, cymdeithasol-ieithyddol ac addysgol gymhwysol. Mae hi wedi cyhoeddi nifer sylweddol o erthyglau ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid a phenodau llyfrau, llawer ohonynt fel prif awdur, mewn cyfnodolion o bwys rhyngwladol, ac mae hi wedi bod yn ymwneud yn helaeth ag ennill grantiau. Mae hi hefyd yn brif olygydd “Advances in the Study of Bilingualism” ac ar hyn o bryd mae hi’n ysgrifennu llyfr ar y cyd, a hynny fel y prif awdur.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2015