Cyflymder Sillafu Syfrdanol Disgyblion
Daeth dros 30 o ddisgyblion blwyddyn saith o un ar ddeg o ysgolion ledled Cymru i Brifysgol Bangor yn ddiweddar i gystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth Spelling Bee Genedlaethol Cymru - Llwybrau at Ieithoedd, project cydweithredol rhwng pum prifysgol yng Nghymru, y pedwar consortiwm rhanbarthol a'r Cyngor Prydeinig i hyrwyddo dysgu iaith a chynyddu nifer y bobl ifanc sy'n dewis astudio ieithoedd tramor modern.
Bu disgyblion yn cystadlu yn erbyn y cloc i ennill teitl Pencampwr Spelling Bee 2019 a thlws gwydr mewn un o bedwar categori. Cefnogwyd cystadleuwyr gan athrawon, rhieni, a myfyrwyr sy'n hyrwyddwyr iaith yn adran ieithoedd a diwylliannau modern Prifysgol Bangor. Roedd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eisoes wedi cystadlu mewn tair rownd flaenorol cyn cyrraedd y rownd derfynol genedlaethol lle mae'n rhaid iddynt sillafu'n gywir gymaint o eiriau ag y gallant allan o gant posibl mewn Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg neu Gymraeg mewn chwedeg eiliad.
Gwnaeth pedair o'r pum ysgol yng ngogledd Cymru a oedd yn cymryd rhan, yng nghonsortiwm GwE, gyrraedd y rownd derfynol. Daeth Emma James o Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff yn fuddugol yn y rownd derfynol sillafu Almaeneg. Roedd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol o ogledd Cymru yn cynnwys Joseph Greenall (St. Joseph's, Almaeneg), Alexandra Owen-Hatfield (Ysgol Alun, Almaeneg), Grace Powell (Ysgol Eirias, Almaeneg), Amelie Surridge (Ysgol Eirias, Ffrangeg), Safiya Wandji (St. Joseph's, Ffrangeg), a Chloe Jackson (Ysgol Rhiwabon, Ffrangeg).
Roedd Rachel Large, Pennaeth Ieithoedd Tramor Modern yn Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff yn llawn canmoliaeth o Spelling Bee a Llwybrau at Ieithoedd Cymru, gan ddweud, “Mae ein disgyblion sydd wedi cymryd rhan bob blwyddyn yn y Spelling Bee wedi cael yr hyder i roi cynnig ar ieithoedd ac maent wedi gweld pwysigrwydd ieithoedd yn y byd ehangach”.
Dywedodd Beverley Gordon, Pennaeth Ieithoedd yn Ysgol Eirias, “Er eu bod yn nerfus, gwnaeth ein disgyblion fwynhau'r profiad Spelling Bee a'u diwrnod ym Mhrifysgol Bangor yn fawr iawn. Roeddent i gyd yn teimlo bod dysgu geirfa ar gyfer y gystadleuaeth wedi gwella eu sgiliau iaith ac roedd cystadlu ar y diwrnod wedi rhoi hyder iddynt. Rydym yn falch iawn o'n 4 disgybl a'u holl waith caled ac wrth ein bodd bod disgyblion Eirias wedi dod yn 3ydd yn y Spelling Bees Ffrangeg ac Almaeneg - ffordd wych i'n helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ieithyddion!“.
Meddai Sylvie Gartau, Cydlynydd Dyfodol Byd-eang GwE, a Stephanie Ellis-Williams, Arweinydd Iaith Dyfodol Byd-eang GwE: “Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus iawn! Roedd yn gyfle gwych i ddisgyblion blwyddyn 7 o bob cwr o Gymru ddangos eu brwdfrydedd tuag at ddysgu iaith. Maent i gyd yn llysgenhadon gwych! Diolch i Lwybrau Cymru a Phrifysgol Bangor am drefnu'r rownd derfynol yn y gogledd am y tro cyntaf. Diolch i'r holl ddisgyblion a gymerodd ran ac i'r athrawon am eu cefnogaeth!”.
Dywedodd Simon Clark, Pennaeth Ffrangeg yn Ysgol Alun: “Rwy'n bennaeth Ffrangeg yn Ysgol Alun a dyma'r tro cyntaf i ni gystadlu yn y digwyddiad. Cafodd Alexandra amser anhygoel ac rydym yn falch iawn ohoni. Gwnaeth yn well nag oedd hi'n ei ddisgwyl ac mae hyn wedi gwella ei sillafu a chynyddu ei hyder hefyd. Byddem wrth ein boddau yn cystadlu eto y flwyddyn nesaf!”
Dywedodd Dr Jonathan Ervine, Uwch Ddarlithydd Ffrangeg yn yr Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau ac Ieithyddiaeth, ac un o feirniaid y categori Ffrangeg: ““Roedd yn wych cael cynnal y Llwybrau Spelling Bee Cymru yma ym Mangor, a gweld brwdfrydedd a sgiliau'r disgyblion a oedd yn cystadlu. Roedd y safonau a gyrhaeddwyd ganddynt yn wirioneddol syfrdanol ac rwy'n gwybod eu bod wedi gadael argraff fawr ar lawer o bobl, gan gynnwys ein Haelod Seneddol lleol.”
Bu cynrychiolwyr o Goethe Institut, Swyddfa Addysg Llysgenhadaeth Sbaen, Institut Français, Dyfodol Byd-eang GwE, Europe Direct Wrecsam, Sw Môr Môn, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad trwy gyflwyno sgyrsiau i'r myfyrwyr, trefnu stondinau gwybodaeth neu feirniadu rowndiau o'r gystadleuaeth ar gyfer pob categori iaith. Trefnwyd y digwyddiad gan gydlynwyr y project, Rubén Chapela-Orri yn y gogledd, a Meleri Jenkins yn y de.
Roedd y gwesteion arbennig a oedd yn bresennol yn y rownd derfynol yn cynnwys y Cynghorydd John Wyn Williams (Maer Dinas Bangor) a Hywel Williams (AS Arfon), a ddywedodd, “Roedd yn ddigwyddiad gwych. Roedd y bobl ifanc yn wir yn ysbrydoli (ac yn gwneud i rywun sy'n ddwyieithog yn unig deimlo'n ostyngedig!)”.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2019