'Cyfnewid' anffurfiol rhwng Cymru a Ghana
O Gymru i Ghana i helpu ...
Fe gafodd Iola Mair Morris brofiad i’w gofio, diolch i’w chwrs ym Mangor.
Fe fu’r ferch o’r Bala, sydd ar ei thrydedd flwyddyn ar y cwrs nyrsio anabledd dysgu gyda'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, ar ymweliad pythefnos â Ghana yng ngorllewin Affrica.
Ar yr un pryd, mae’n gwybod ei bod wedi gwneud lles i blant yn un o wledydd tlota’r byd.
Fe fu’r ferch o’r Bala, sydd ar ei thrydedd flwyddyn ar y cwrs nyrsio anabledd dysgu, ar ymweliad pythefnos â Ghana yng ngorllewin Affrica.
Wrth weithio’n wirfoddol mewn cartref i blant amddifad yno, fe fu’n helpu un ferch fach gyda Syndrom Down’s gan roi gwybodaeth i’r staff lleol am union natur y cyflwr a’r problemau iechyd sy’n gallu dod yn ei sgil.
“Doedden nhw’n gwybod dim am Down’s yno,” meddai. “Felly, wnes i gyflwyno pecyn gwybodaeth amdano fo.”
Er bod peth cyfoeth yn y brifddinas, Accra, roedd taith i’r wlad a hyd yr arfodir yn dangos tlodi mawr a doedd fawr ddim adnoddau technoleg fodern ar gael.
“Y peth mwya’ wnaeth argraff arna’ i oedd gweld y plant, heb rieni na theulu, ac eto roedden nhw’n hapus,” meddai Iola.
Ac mi gafodd hithau gymaint o flas ar y profiad fel ei bod eisoes yn trefnu i wneud gwaith gwirfoddol yn Cambodia y flwyddyn nesa’.
O Ghana i Gymru i achub bywydau ...
Hyd yn oed ym Mangor, mae Iola Morris yn gallu trafod Ghana ... mae un o fyfyrwyr yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn nyrs gofrestredig o’r wlad.
I Henrietta Obaabeng Dompreh, mae’r cyfle i ddysgu mewn adran iechyd fodern yn golygu y bydd hi’n gallu mynd yn ôl adref a helpu i achub bywydau.
“Dw i wedi gweld llawer o bobl yn marw yn Affrica oherwydd afiechydon y mae modd eu hatal,” meddai Henrietta, sy’n astudio’r cwrs Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd.
“Bydd yn fy ngalluogi i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o sut i helpu atal a rheoli’r afiechydon yma.”
Mantais arall iddi yw gallu rhannu gwybodaeth a syniadau gyda myfyrwyr o ledled y byd – mae pobl o 11 o wledydd gwahanol ar y cwrs.
“Mae bywyd ym Mangor yn ddiddorol a heb straen ac mae’n bleser bod yma,” meddai, gan ddweud bod tebygrwydd rhwng Cymru a Ghana o ran gwerthoedd a diwylliant.
Y ddau wahaniaeth mawr yw cyfoeth y bobl – a’r tywydd!
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ionawr 2018