Cyfraith Stryd: Gwybod beth yw eich hawliau cyfreithiol
Mae myfyrwyr y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig cyflwyniadau am ddim i sefydliadau lleol i helpu i wella dealltwriaeth pobl o’u hawliau cyfreithiol.
Sefydlwyd Cyfraith Stryd gan Iwan Emlyn Jones a Joshua Simpson, sy’n fyfyrwyr trydedd flwyddyn yn y Gyfraith. Menter gymunedol ydyw gyda’r nod o roi gwybodaeth gyfreithiol ddefnyddiol i bobl na fyddai fel rheol yn medru cael gafael yn rhwydd ar y materion a’r wybodaeth sy’n effeithio arnynt.
Dan y project hwn mae myfyrwyr y Gyfraith o Brifysgol Bangor yn rhoi cyflwyniadau rhyngweithiol ar bynciau fel Cyfraith Trosedd, Cyfraith Defnyddwyr a Chyfraith Cyflogaeth am ddim i sefydliadau fel clybiau ieuenctid, Sefydliad y Merched ac ysgolion uwchradd.
Sefydlwyd Cyfraith Stryd gan Iwan, o Gaernarfon, a Joshua, o Borthaethwy, ar ôl iddynt fod mewn diwrnod agored Ysgol y Gyfraith BPP ym Manceinion. Roeddent yn teimlo y gall mwy o ddarpariaethau fod ar gael i fyfyrwyr y Gyfraith sy'n ystyried gyrfaoedd y tu allan i'r diwydiant cyfreithiol, yn ogystal ag ynddo. Mae’r project yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau cyflwyno, ymchwilio, gwaith tîm a siarad cyhoeddus, sydd i gyd yn sgiliau pwysig yn unrhyw faes cyflogaeth. Mae’n gymorth addysgol gwerthfawr hefyd. Ers ei sefydlu mae wedi tyfu’n sylweddol, a nawr mae’n cydweithio’n agos â Chwmni Cyfreithwyr Gamlins a phroject ‘Ennill wrth Dendro’ Ysgol y Gyfraith Bangor, gyda chyllid gan Ysgol y Gyfraith BPP. Cafodd Cyfraith Stryd ei gyhoeddiad cyntaf erioed gyda Sefydliad y Merched ym Mhorthaethwy, Ynys Môn, lle rhoddwyd cyflwyniad ar Gyfraith Defnyddwyr.
Meddai Iwan, Cyd-Gyfarwyddwr y fenter: “Bu Cyfraith Stryd yn llwyddiannus iawn gyda’i gyflwyniad cyntaf i Sefydliad y Merched ym Mhorthaethwy, ac edrychwn ymlaen at roi cyflwyniad arall iddynt yn y dyfodol.” I gael mwy o wybodaeth am Gyfraith Stryd, yn cynnwys sut i wneud cais am gyflwyniad, ewch i http://www.bangor.ac.uk/law/streetlaw.php.cy neu cysylltwch â streetlaw@undeb.bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2011