Cyfraniad Graddedigion o 2012
Mewn ymgais i gynnal a gwella’i henw da am brofiad o’r safon uchaf i fyfyrwyr, mae Prifysgol Bangor wedi cynnig ffioedd hyfforddi o £9,000 ar gyfer myfyrwyr is-radd a TAR o Brydain a’r Undeb Ewropeaidd o 2012. Yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, bydd myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru yn talu dim ond y ffi gyfredol o tua £3,400 y flwyddyn.
Mae’r Brifysgol wedi cyflwyno nifer o fentrau newydd cyffrous yn ei Chynllun Ffioedd, a gyflwynwyd i’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch (HEFCW) i’w gymeradwyo.
Meddai’r Is-Ganghellor, Yr Athro John Hughes: “Mae Bangor wedi ymfalchïo mewn cynnig profiad dysgu o ansawdd uchel i fyfyrwyr erioed, ac er gwaethaf yr hinsawdd gyllidol llawn her, rydym yn hollol benderfynol o gynnal a gwella’r hyn a gynigiwn. Bwriadwn gynyddu nifer y bwrsariaethau i fyfyrwyr o gefndiroedd incwm isel, buddsoddi yn yr isadeiledd dysgu, a gwella’n darpariaeth ar gyfer chwaraeon a hamdden i fyfyrwyr. Mewn cam arloesol, bydd y Brifysgol yn cyflwyno aelodaeth am ddim i fyfyrwyr o glybiau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr, a mwy o gefnogaeth ar gyfer gweithgareddau gwirfoddoli gan fyfyrwyr, a datblygu sgiliau’n gysylltiedig â chyflogadwyedd.”
“Rydym ni eisoes yn buddsoddi’n helaeth yn natblygiad uchelgeisiol Pontio, sy’n werth miliynau o bunnoedd. Bydd hyn yn cynnwys cyfleusterau addysgu newydd yn ogystal â theatr, lle sinema ac Undeb newydd y Myfyrwyr, a bydd y mentrau ychwanegol yma’n adeiladu ar y project cyffrous hwn”, meddai.
Mae swydd uwch newydd yn cael ei sefydlu, sef Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer myfyrwyr. Bydd yn goruchwylio materion yn ymwneud â myfyrwyr, a chyflwynir swydd newydd Cyfarwyddwr Chwaraeon a Hamdden hefyd.
Er hynny, nid oedd hyn yn benderfyniad hawdd i’r Brifysgol. Yng nghyd-destun y gostyngiad sylweddol mewn cefnogaeth gan y llywodraeth i brifysgolion o ganlyniad i’r newid mewn trefn ffioedd, daeth i’r casgliad o’i hanfodd bod angen y lefel yma o ffi er mwyn sicrhau bod profiad ei myfyrwyr yn parhau’n flaenoriaeth uchel.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mai 2011