Cyfraniad Prifysgol Bangor at genedl fwyaf newydd Affrica
Ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf 2011, bydd y byd yn croesawu ei chenedl fwyaf newydd, Gweriniaeth Deheubarth Swdan ( a elwir fel arfer yn Dde Swdan) a anwyd o'r dioddefaint a achoswyd gan ddegawdau o ryfel cartref.
Mae Prifysgol Bangor, ac yn enwedig Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (ADNODD), yn falch o fod wedi chwarae rhan arwyddocaol mewn datblygu'r genedl newydd trwy ei rhaglenni meistr adnoddau naturiol.
Rhwng 2002 a 2009 dyfarnwyd graddau meistr gan ADNODD i ddeg o weithwyr proffesiynol o dde Swdan, ac maent gyd wedi dychwelyd adref i adeiladu eu gwlad newydd. Cawsant eu noddi ar y cyd gan gynllun ysgoloriaethau Comisiwn Ysgoloriaethau'r Gymanwlad a chan Windle Trust International, elusen sydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod pobl sydd wedi dioddef yn sgil gwrthdaro yn Affrica’n cael cyfleoedd addysg a hyfforddiant.
Meddai Mario Konyen, Swyddog Rhaglenni’r Windle Trust, "Mae Prifysgol Bangor wedi chwarae rhan allweddol bwysig mewn meithrin doniau gweithwyr proffesiynol De Swdan "
Bu Caplaniaeth Anglicanaidd y Brifysgol hefyd yn cyfrannu trwy ddarparu llety a lwfans cynhaliaeth fisol i ddau neu dri o’r myfyrwyr hyn o Dde Sudan yn flynyddol wrth astudio ar gyfer eu MSc.
fel yr esbonia’r cyn Caplan Anglicanaidd John Butler: " Roedd hyn yn fodd i’r myfyrwyr nad oedd ganddynt unrhyw gyllid o gwbl, hyd yn oed digon i’w cynnal, i fynychu Prifysgol Bangor a datblygu’r sgiliau oedd wir angen ar eu gwlad ifanc. "Roedd nifer o’r myfyrwyr hyn wedi cael eu hastudiaethau yn Juba wedi tarfu arnynt gan y rhyfel gartref, gyda’r canlyniad nad oedd eu marciau’n ddigon uchel iddynt dderbyn cyllid drwy ysgoloriaethau’r Gymanwlad neu Adran Datblygiad Rhyngwladol. Er hyn. Fe lwyddodd pawb ac maent bob un mewn swyddi i wneud gwaith cyfrifol dros eu gwlad. Roedd yn amod ar y nawdd eu bod yn dychwelyd i’w gwlad er mwyn cyfrannu, ac mae hyn yn ein gwneud yn falch iawn ohonynt ac yn ddiolchgar ei fod wedi bod yn bosib rhoi’r cynllun mewn lle ar yr adeg iawn.”
Mae cyn fyfyrwyr Bangor yn Ne Swdan yn gweithio mewn amrywiaeth o swyddi i amryw o fudiadau ac asiantaethau datblygu gan gynnwys Banc y Byd, Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, Prifysgol Joba a’r Weinyddiaeth Adnoddau Anifeiliaid a Physgodfeydd. Yn eu plith y mae cynghorydd datblygu economaidd, datblygwyr sgiliau, cyfarwyddwr cyffredinol dros dro hyrwyddo buddsoddiadau yn y Weinyddiaeth Fuddsoddi, dadansoddwyr rhaglenni, darlithydd ac ymgynghorydd.
Rhagor o wybodaeth am Windle Trust International: http://www.windle.org.uk/
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2011