Cyfraniadau RAG Bangor 2013 at Elusen
Yn ddiweddar cyflwynodd RAG Prifysgol Bangor, un o grwpiau Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor, eu cyfraniadau ariannol blynyddol i'w pedair elusen ddethol. Ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, bydd y grŵp, sy'n cynnal nifer o ddigwyddiadau codi arian dros y flwyddyn, yn dewis pedair elusen i godi arian drostynt.
Eleni, yr elusennau a gafodd fudd o gefnogaeth RAG oedd Kidscan, Tŷ Gobaith, Nawdd Nos Prifysgol Bangor a Dementia UK ac ar ôl misoedd o godi arian yn llwyddiannus, gwnaed cyfraniad o £1392 i bob grŵp.
Ar ben hynny, mae gwirfoddolwyr RAG wedi helpu i godi arian at nifer o elusennau eraill gan gynnwys Apêl y Pabi, Marie Curie, Concern Universal, Vitligo UK, Ymgyrch Everyman, Ymgyrch Cancr y Fron, Arthritis UK a Barnados, gan godi cyfanswm o £9,496.46.
Trefnwyd amryw o ddigwyddiadau ar raddfa fawr ac eraill ar raddfa lai dros y flwyddyn gan gynnwys noson thema Harry Potter, seiclo rhithiol ar draws Gambia a nifer o gasgliadau arian yn y stryd ym Mangor a'r cyffiniau.
Dylai unrhyw elusen leol sy'n dymuno cael ei hystyried ar gyfer cefnogaeth gan RAG Prifysgol Bangor yn y flwyddyn academaidd nesaf ysgrifennu at RAG, Undeb y Myfyrwyr, Bryn Haul, Heol Fictoria, Bangor LL57 2EN a darparu cymaint o wybodaeth â phosib am eu mudiad neu gronfa a hynny dim hwyrach na 31 Hydref 2013. Gellir cael mwy o wybodaeth gan Swyddfa Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor drwy ffonio 01248 388021.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2013