Cyfreithiwr lleol yn graddio o Brifysgol Bangor
Mae cyfreithiwr lleol sydd â llawer iawn o brofiad ym maes y gyfraith a busnes wedi graddio gydag MBA o Brifysgol Bangor yr wythnos hon.
Cafodd Rhodri Ogwen Morgan, 31 oed o Gricieth, ragoriaeth yn ei gwrs ac enillodd radd MBA Rheoli Amgylcheddol o un o Ysgolion Busnes gorau yn y DU.
Ar ôl dilyn y llwybr addysg uwch traddodiadol, graddiodd Rhodri yn y Gyfraith o Brifysgol John Moores, Lerpwl ac yna dilynodd gwrs ymarfer cyfreithiol yng Nghaer cyn cymhwyso fel cyfreithiwr yn 2008. Yn ddiweddarach bu'n gweithio fel cyfreithiwr locwm ac ymgynghorydd annibynnol yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus lle’r oedd yn arbenigo mewn projectau mawr a masnachol cyn dychwelyd i'r brifysgol yn 2012 i astudio cwrs MBA.
Enillodd Rhodri hefyd wobr Magnox gwerth £200 am y myfyriwr cyffredinol gorau ar y cwrs Rheolaeth Amgylcheddol MBA yn Ysgol Busnes Bangor. Dywedodd Dr Gareth Griffiths, Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Busnes: "Roedd angerdd Rhodri am yr amgylchedd a busnes yn amlwg yn ystod ei MBA. Gwnaeth gyfraniad rhagorol i’r rhaglen ac roedd ei ddealltwriaeth a’i ddefnydd o’r ddealltwriaeth honno o'r radd flaenaf ".
Meddai Rhodri, a oedd yn falch iawn o’i gyflawniad: "Mae llawer o fy ffrindiau wedi graddio o Brifysgol Bangor dros y blynyddoedd diwethaf a gan mai’r Ysgol Fusnes yw’r orau yn y DU am ymchwil ym maes Cyfrifeg a Chyllid, roedd Bangor yn ddewis naturiol i mi.
"Dwi wastad wedi bod â diddordeb mewn busnes a gan i mi fod yn gysylltiedig â sefydlu a rhedeg cwmnïau amrywiol dros y blynyddoedd, roedd gennyf ddiddordeb yn y cymhwyster MBA mewn Rheolaeth Amgylcheddol gan fod y modiwlau mor berthnasol i’r byd busnes modern. Dros y blynyddoedd bûm yn ddigon ffodus i gael profiad o weithio gydag amrywiaeth o wahanol fusnesau a sectorau, yn amrywio o fusnesau teuluol bach i gwmnïau mawr rhyngwladol yn y DU a thramor yn yr UE a'r rhanbarthau Asia Pac. Credaf y bydd yr MBA o Brifysgol Bangor o fudd mawr i mi yn y dyfodol a byddwn yn ei argymell i fyfyrwyr eraill sy'n ystyried gwneud cymhwyster ôl-raddedig mewn busnes.
"Pan oeddwn yn astudio ym Mangor, roedd gennyf gyfrifoldebau eraill fel cyfarwyddwr cwmni a ddechreuais gyda ffrind nôl yn 2011. Mae'r cwmni'n arbenigo mewn cyflenwi a dosbarthu offer a pheiriannau trwm i gwmni Tsieineaidd rhyngwladol yn y DU. Bu’n anodd ar adegau, yn ceisio cadw cydbwysedd rhwng y cyfrifoldeb o redeg busnes a chwblhau projectau ac aseiniadau i’r cwrs, ond nid oedd yn rhy ddrwg.
"Pan oeddwn yn dilyn y cwrs MBA, llwyddais i a chyd-fyfyriwr i gael lleoliad gwaith am bedwar mis gyda Magnox Cyf i wneud ein traethodau hir ymchwil mewn projectau cysylltiedig â rheoli newid yn safle dad-gomisiynu niwclear Trawsfynydd. Hwn oedd uchafbwynt y flwyddyn i mi oherwydd cefais y cyfle i wneud ymchwil sylfaenol yn yr orsaf bŵer sydd yn ei hun yn ddiddorol ac rwy'n teimlo'n ffodus iawn fy mod wedi gweithio gydag unigolion medrus a thalentog. Roedd yn brofiad anhygoel.
"Uchafbwynt nodedig arall oedd cael y cyfle i weithio gydag unigolion hynod brofiadol a phroffesiynol o nifer o wahanol gefndiroedd. Yn ystod y flwyddyn cefais y cyfle i weithio a gwneud ffrindiau da gyda chyfreithiwr o Libya, arbenigwr TG o’r India, ffisegydd niwclear o Tsieina ac ymgynghorydd rheoli o’r UDA, heb sôn am yr holl bobl y bûm yn gweithio gyda nhw ym Magnox. Uchafbwynt arall oedd cael rhagoriaeth yn fy mhroject ymchwil a rhagoriaeth gyffredinol yn fy MBA.
"Yn union fel unrhyw radd meistr arall, mae rhwystrau i'w goresgyn yn ystod eich astudiaethau, fel pynciau newydd y mae’n rhaid eu dysgu’n gyflym ac yn hyderus, a chwblhau gwaith ar gyfer gwahanol ddyddiadau cau. Ond yn gyffredinol, credaf mai dyma yw pwrpas MBA, dysgu sut i wynebu rhwystrau a heriau a dod o hyd i atebion ymarferol ac arloesol i'r problemau hyn yn unigol ac fel rhan o dîm. Ar ddiwedd y dydd, mae busnes a rheolaeth yn ymwneud â gweithio gyda phobl, goresgyn rhwystrau a datrys problemau, ac rwy'n teimlo bod yr MBA yn rhoi cyfle gwych i fyfyrwyr gael profiad o gyflawni hyn.
"Fy ngobeithion at y dyfodol yw datblygu ac ehangu fy mhrofiad a gwybodaeth am brojectau rheoli newid a thrawsnewid a hyrwyddo fy ngyrfa mewn ymgynghori."
Ychydig ddyddiau cyn graddio, llwyddodd Rhodri i gwblhau’r Her 15 Copa Eryri 3000 i gefnogi'r Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol, sef yr unig elusen yn y DU sy'n gweithio’n benodol i wella’r diagnosis o osteoporosis a thoriadau esgyrn brau a’u hatal a’u trin. Yr her 3000 oedd dringo pob un o'r 15 gopa dros 3000 troedfedd yn Eryri mewn 24 awr. Mae'r llwybr cyfan oddeutu 30 milltir o ran hyd ac yn cynnwys dros 13,000 troedfedd o waith dringo.
Straeon cysylltiedig:
Myfyriwr Busnes i wynebu Her y 15 Copa
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014