Cyfres o deithiau tywys o gasgliadau celf a serameg Prifysgol Bangor
Bydd teithiau tywys yn cael eu cynnal o gwmpas Casgliadau Celf a Serameg Prifysgol Bangor rhwng Chwefror a Mai. Y bwriad ydi codi ymwybyddiaeth o’r casgliadau pwysig yma, gyda’r uchafbwyntiau yn cynnwys murlun gan Edward Povey yn Neuadd Powis, celf a serameg yng Nghoridor Ystafell Cyngor y Brifysgol a chyfle i weld a dysgu am waith celf gan artistiaid enwog fel Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Peter Prendergast a Frederick William Hayes.
Yn ogystal a’r teithiau cyffredinol fydd yn cael eu cynnal ym Chwefror ac Ebrill, bydd cyfle i fynychu teithiau gan dywyswyr gwadd arbenigol. Ym mis Mawrth bydd David Roberts, cyn gofrestrydd y Brifysgol yn arwain teithiau ar ‘ “Cofadail Parhaol Bangor” : dyluniad a hanes Prif Adeilad y Brifysgol’. Ym mis Mai bydd yr arlunydd Jeremy Yates yn arwain teithiau ar y pwnc ‘ Rhoddion Casgliad Celf’ gan ganolbwyntio ar rannau o’r casgliad.
Mae’r teithiau tywys yma yn rhan o ymgyrch ar y cyd gyda Chyngor Gwynedd sy’n bwriadu cynyddu mynediad i gasgliadau amgueddfeydd cudd y Brifysgol trwy’r prosiect ‘Ymgysylltu â Chasgliadau: Ehangu Mynediad at Dreftadaeth Gwynedd’ sydd wedi cael ei ariannu’n rhannol gan y Gronfa Treftadaeth Loteri. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl lleol ac ymwelwyr i fwynhau a dysgu o’r creiriau sydd yn cael eu harddangos.
Cynhelir y teithiau tywys o fynedfa Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor ar Sadyrnau 27 o Chwefror, 26 o Fawrth, 23 o Ebrill a 21 o Fai. Cynhelir teithiau yn Saesneg am 11.00yb-12.00yp, 2.00yp-3.00yp, ac yn Gymraeg 12:30yp-1:30yp ar y dyddiau yma.
Os oes gennych ddiddordeb mynychu’r teithiau tywys, gofynnir i chi gadw eich lle gan mai dim ond lle i 15 person sydd ar bob taith. Gallwch wneud hyn drwy ffonio Storiel ar 01248 353368 neu e-bostio storiel@gwynedd.gov.uk
Dyddiad cyhoeddi: 19 Chwefror 2016