Cyfrol Angharad ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn
Mae cyfrol gan Uwch Ddarlithydd o Ysgol y Gymraeg wedi cyrraedd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2014.
Mae’r gyfrol Ffarwél i Freiburg: Crwydriadau Cynnar T.H. Parry-Williams gan Dr Angharad Price yn dangos sut yr oedd ei flynyddoedd cynnar wedi dylanwadu’n sylfaenol ar gerddi ac ysgrifau T. H. Parry-Williams.
Mae’r llyfr yn dilyn bywyd a gwaith y bardd rhwng 1887 a thua 1919. Mae’n cynnwys y cyfnod pan wnaeth y llenor adael cartref er mwyn mynd i’r ysgol uwchradd, a’r profiad o fod yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
“Tra oedd o yn Freiburg yn yr Almaen, roedd o wedi mynd i ddarlithoedd ar seicoleg, a hynny pan oedd seicoleg yn bwnc prifysgol ifanc iawn,” meddai Angharad Price.
“Mae hynny’n ddylanwad amlwg ar ei waith ac mae yna dystiolaeth hefyd fod yr iaith Almaeneg wedi cael dylanwad arno fo – yn y ffordd y mae o’n cyfuno geiriau i greu geiriau newydd.”
Mae naw llyfr ar y rhestr fer eleni; tri llyfr Ffuglen, tair cyfrol o Farddoniaeth a thri llyfr Ffeithiol-Greadigol. Mae nofel Dr Angharad Price yng nghategori Ffeithiol-Greadigol.
Bydd enillydd pob categori yn derbyn gwobr o £2,000, gyda’r prif enillydd hefyd yn derbyn gwobr ychwanegol o £6,000.
Cynhelir Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2014 yn Galeri, Caernarfon ar Orffennaf 10fed.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2014