Cyhoeddi Cymrodyr er Anrhydedd newydd Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi'r Cymrodoriaethau er Anrhydedd a fydd yn cael eu dyfarnu yn ystod Seremonïau Graddio'r Brifysgol eleni. Cyflwynir y Cymrodoriaethau er Anrhydedd fel rhan o’r seremonïau yn ystod wythnos 15-19 Gorffennaf 2019.
Mae Cymrodoriaethau er Anrhydedd yn galluogi'r Brifysgol i wobrwyo unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol yn eu dewis faes. Dewisir Cymrodyr er Anrhydedd o blith unigolion sy'n gweithio yng Nghymru neu sydd â chysylltiad â'r Brifysgol.
Dywedodd yr Is-Ganghellor Dros Dro, yr Athro Graham Upton:
“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael llongyfarch ein holl raddedigion llwyddiannus yn y seremonïau graddio sydd i ddod ac rwy'n falch iawn bod Prifysgol Bangor yn gwobrwyo ac yn nodi'r cyfraniadau sylweddol a wnaed gan ein Cymrodyr Anrhydeddus newydd. Mae pob un wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr yn y celfyddydau, ym myd dysg, busnes neu yn ein cymdeithas yn ehangach, ac mae eu llwyddiannau i'w clodfori. Gobeithiwn y byddant yn ysbrydoliaeth i'n myfyrwyr sy'n graddio, gan eu hannog i ymdrechu i gyflawni eu nodau.”
Drwy gydol ei gyrfa mae Elan Closs Stephens CBE wedi dangos ymrwymiad a gwasanaeth angerddol i'r diwydiannau creadigol, yn enwedig yng Nghymru. Yn ddiweddar, ceir tystiolaeth o hyn trwy ei haelodaeth ar Fwrdd Unedol y BBC lle mae'n cynrychioli buddiannau Cymru - Am Wasanaethau i'r Diwydiannau Creadigol.
Arlywydd Liao, academydd, yn dangos ymrwymiad a gwasanaeth angerddol i addysg uwch gan gynnwys rhyngwladoli addysg yn CSUFT a Choleg Bangor Tsieina - Am Wasanaethau i Addysg Ryngwladol.
Dangosodd Angela Gardner, cyn-fyfyriwr, ymrwymiad angerddol i'w phroffesiwn ac yn benodol wrth adnabod a datblygu talentau ar lefel gweithredol. Mae hi hefyd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at hyrwyddo amrywiaeth yn y gweithle - Am Wasanaethau i Ddatblygu Arweinyddiaeth ac Amrywiaeth.
Rhian Davies, cyn-fyfyriwr. Drwy gydol ei gyrfa mae hi wedi dangos ymrwymiad a gwasanaeth angerddol i'w phroffesiwn, yn fwyaf diweddar drwy ei harweinyddiaeth ar Ŵyl Gregynog ac wrth adfer casgliadau cerddorol y gyfansoddwraig, Morfydd Owen - Am Wasanaethau i Gerddoriaeth.
Karin Lochte, cyn-fyfyriwr, sy'n adnabyddus am ei hymrwymiad i wyddoniaeth forol ryngwladol ac yn benodol ei rolau arweinyddiaeth yn Sefydliad Alfred Wegener ac, yn fwyaf diweddar, ei haelodaeth ar Gyngor NERC - Am Wasanaethau i Fioleg Forol
Gareth Wyn Jones, cyn-fyfyriwr, sydd â chysylltiad hir â Phrifysgol Bangor fel myfyriwr ac ymchwilydd o dan yr Athro Charles Evans; fel darlithydd ac fel un o sylfaenwyr ac arweinwyr y Ganolfan Astudiaethau Parthau Arid ym Mangor - Am Wasanaethau i'r Amgylchedd.
Catrin Stevens, am ei chyfraniad i fywyd Cymru trwy ei gwaith cyhoeddedig, ei gweithgarwch a'i hymrwymiad i'r iaith Gymraeg a'i diwylliant - Am wasanaethau i Dreftadaeth a Diwylliant.
Bydd y Barnwr Meleri Tudur, barnwr nodedig, a benodwyd yn Ddirprwy-Lywydd Siambr Addysg Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Tribiwnlys Haen Gyntaf. Bydd y Barnwr Tudur yn gyfrifol am Awdurdodaeth Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd, Safonau Gofal a Rhestri Iechyd Sylfaenol o fewn Siambr honoo - Am Wasanaethau i'r Gyfraith.
Chris Roberts, arloeswr ac eiriolwr yn y mudiad dinasyddiaeth ym maes dementia ac yn ffigwr blaenllaw yn y DU ac mewn cyd-destun rhyngwladol, gan sefydlu cyfres o fentrau arloesol ar draws cymunedau lleol a rhyngwladol gyda phobl sy'n byw gyda dementia - Am Wasanaethau i Ymchwil , Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Edward (Johnny) Johnston. Cyn-fyfyriwr ac arbenigwr o fri rhyngwladol, y mae ei gyfraniadau drwy gydol ei yrfa hir wedi bod yn hanfodol i ddealltwriaeth o brosesau sylfaenol mewn ffrwythlondeb pridd a maeth cnwd, gan ddarparu llawer o sail ymchwil ym maes ansawdd pridd ac amaethyddiaeth gynaliadwy - Ar gyfer Gwasanaethau i Wyddoniaeth Amaethyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2019