Cyhoeddi mai George Meyrick yw Canghellor newydd Prifysgol Bangor
Cyhoeddwyd mai George Meyrick yw Canghellor newydd Prifysgol Bangor. Mae'n olynu'r Arglwydd Elis-Thomas a roddodd y gorau i'r swydd yn gynharach eleni.
Ef yw'r deuddegfed i ddal y swydd seremonïol hon yn y brifysgol, a bydd yn gwasanaethu am gyfnod cychwynnol o bum mlynedd.
Graddiodd George Meyrick o brifysgol Caergrawnt, mae'n gyfreithiwr yn arbenigo ym maes yr amgylchedd, ac ef sydd i etifeddu teitl 8fed Barwnig Hinton Admiral. Mae wedi sefydlu nifer o fusnesau sy'n gweithredu ym maes yr amgylchedd ac ef yw Cadeirydd Gweithredol grŵp teulu Meyrick, sy'n gasgliad o fusnesau a daliadau tir. Mae Ystâd Bodorgan ar Ynys Môn yn rhan bwysig o hyn.
Swyddogaeth y Canghellor yw bod yn lladmerydd i'r brifysgol a chyflawni nifer o ddyletswyddau seremonïol pwysig, yn cynnwys Seremonïau Graddio a chynrychioli'r brifysgol mewn gwahanol ddigwyddiadau.
Fe wnaeth y brifysgol groesawu Mr Meyrick yn swyddogol fel Canghellor yn ystod ei seremonïau graddio Rhagfyr yr wythnos ddiwethaf.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Rhagfyr 2017