Cyhoeddi Swyddi Darlithio Cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Yn dilyn sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym mis Mawrth eleni, mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi dau benodiad allweddol yn yr Ysgol Cerddoriaeth o dan nawdd cynllun staffio academaidd y Coleg. Y rhain yw’r penodiadau cyntaf a noddwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd y darlithwyr newydd yn cychwyn ym mis Medi 2011 am gyfnod o 5 mlynedd.
Dywedodd Yr Athro John Hughes, Is-ganghellor, Prifysgol Bangor: ‘Mae’r penodiadau hyn yn arwydd pendant o’n hymrwymiad ni fel sefydliad i ddatblygiad addysg uwch cyfrwng Cymraeg ac mae cefnogaeth arbennig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhywbeth i’w groesawu’n fawr’.
Brodor o Lyndyfrdwy ger Corwen yw’r Dr. Owain Llwyd. Mae’n arbenigo ar gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilm modiwl a fydd ar gael fel dewis i fyfyrwyr cerddoriaeth o hyn ymlaen. Yn dilyn cyhoeddi casgliad o gryno ddisgiau o gerddoriaeth llyfrgell dan adain cwmni Boosey and Hawkes, clywir ei weithiau ar raglenni fel The X-Factor (ym Mhrydain ac yn Ewrop) a Top Gear ac ar sawl hysbyseb deledu. Daw Owain i’r Brifysgol wedi cyfnod o brofiad yn gweithio fel cyfansoddwr yn y diwydiant ffilmiau yn Llundain. Cyn hynny yr oedd yn ddeiliad ysgoloriaeth ymchwil o dan nawdd y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg, sydd bellach wedi ei hymgorffori o fewn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cerddoriaeth boblogaidd Gymreig yw arbenigedd Dr. Craig Owen Jones ac fel rhan o’i waith fel Cymrawd Dysgu (cymrodoriaeth a noddwyd gan y Ganolfan Addysg Uwch) yn yr Ysgol Cerddoriaeth, sefydlodd Archif Bop Cymru sy’n adnodd ar gyfer ymchwilwyr ym Mangor a thu hwnt. Ar hyn o bryd, mae’n cwblhau cyfrol ar fyd canu pop ac mae’n awyddus iawn i glywed gan berfformwyr a chyn-berfformwyr yn y maes. Cyhoeddodd eisoes nifer o erthyglau gan gynnwys ymdriniaeth â’r traddodiad yng Nghymru yn y 1960au a’r 70au.
Mae’r ddau benodiad uchod yn rhan o gyfres o benodiadau eraill a wneir ym Mhrifysgol Bangor yn ystod yr wythnosau nesaf, yn cynnwys penodiadau yn yr Ysgolion Cemeg, Seicoleg, Ieithoedd Modern, Gwyddorau Iechyd a Gwyddorau Cymdeithas – a’r cyfan wedi’u hariannu gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dywedodd y Dr. Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: ‘ Mae’r Coleg yn croesawu’r penodiadau yma yn fawr iawn, nid yn unig am mai dyma’r cyntaf i’w cadarnhau o dan nawdd cynllun staffio’r Coleg, ond hefyd yn sgil y ffaith i Dr Owain Llwyd a Dr Craig Owen Jones fod yn gysylltiedig â chynlluniau i feithrin academyddion cymwys i’w penodi i swyddi darlithio. Yr ydym yn llongyfarch Owain a Craig ar eu penodiadau, gan nodi fod cynlluniau ar y gweill i alluogi myfyrwyr mewn prifysgolion eraill i ddilyn modiwlau a fydd yn cael eu cynnig ganddynt.’
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2011