Cyhoeddi Tymor Barddoniaeth Bangor
Mae trydedd Gŵyl Farddoniaeth Ryngwladol flynyddol Gogledd Cymru'n cyflwyno Tymor Barddoniaeth Bangor, sef cyfres o ddarlleniadau a pherfformiadau a gynhelir drwy fis Hydref (1-24) 2014. Cynhelir digwyddiadau ym Mhrifysgol Bangor ac mewn mannau o amgylch y ddinas, yn cynnwys Pier Bangor a siopau ar y Stryd Fawr. Bydd beirdd rhyngwladol yn perfformio gyda chyfieithiadau, ynghyd ag ysgrifenwyr Cymreig yn y ddwy iaith, gan greu cyd-destunau newydd i rai o'r lleisiau mwyaf cyffrous mewn barddoniaeth gyfoes o Serbia, Gwlad Pwyl, Tsiena, Ciwba, y Weriniaeth Tsiec a Slofacia. I gyferbynnu â'r lleisiau hyn, bydd y bardd a'r artist Tsiec, Martin Zet, yn edrych ar agweddau ar dawelwch mewn nifer o ddigwyddiadau ym Mangor a'r cyffiniau. Bydd ei berfformiadau'n cynnwys rhyddhau print o'r dudalen a gwahodd cynulleidfaoedd i wrando mewn lleoliadau pur annisgwyl.
Meddai Dr Zoë Skoulding (Ysgol y Saesneg, Prifysgol Bangor), sy'n cyfarwyddo'r ŵyl: “Er gwaethaf traddodiadau pwysig Cymru ym myd barddoniaeth a cherddoriaeth, rydym yn byw mewn diwylliant byd-eang lle mae'r gweledol yn dod yn gynyddol bwysig. Mae barddoniaeth yn ein gwahodd i wrando'n wahanol, nid yn unig ar eiriau eu hunain ond hefyd ar y gofodau rhyngddynt. Mae'r ŵyl hon yn galluogi cynulleidfaoedd i glywed synau arbennig gwahanol ieithoedd, ynghyd â chyfieithiad fel y gall pawb ddilyn yr hyn sy'n mynd ymlaen. Yn ogystal â chyfieithu rhwng ieithoedd, bydd perfformiadau lle mae geiriau'n croesi ffiniau gwahanol ffurfiau o gelf, megis cerddoriaeth a ffilm."
Cefnogir yr Ŵyl gan Gyngor celfyddydau Cymru, Y Ganolfan Tsiec, Arc Publications, Prifysgol Bangor University a'r Whistlestop Café.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Medi 2014