Cyhoeddiad Busnes Mawr yng Nghynhadledd Caffael Ysgol y Gyfraith
Heddiw, cafwyd cyfres o gyhoeddiadau economaidd enfawr gan Alun Cairns AS, Is-Weinidog Seneddol Swyddfa Cymru, a draddododd anerchiad bwysig yn “Wythnos Caffael”, cynhadledd fawr flynyddol sydd yn cael ei threfnu yng Nghaerdydd gan Sefydliad ar gyfer Cystadleuaeth ac Astudiaethau Caffael, Prifysgol Bangor (SCAC, Ysgol y Gyfraith Bangor).
Datgelodd y Gweinidog fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ei ffordd i ragori ar ei tharged i wobrwyo 25% o wariant Llywodraeth Ganolog y DU i Fentrau Bychan a Chanolig (SMEs) cyn diwedd y flwyddyn. Wrth gyfeirio at fentrau sydd yn cael eu harwain gan Weinidog y Swyddfa Cabinet, Francis Maude AS, datgelodd y Gweinidog, allan o £50 biliwn o wariant blynyddol ar nwyddau a gwasanaethau, fe fydd Llywodraeth y DU yn gwario dros £11 biliwn drwy gontractau wedi eu dyfarnu yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol i Fentrau Bychan a Chanolig. Mae hyn yn ddatblygiad enfawr, ac yn dilyn mentrau allweddol i wella caffael i gynorthwyo Mentrau Bychan a Chanolig i ennill mwy o gontractau cyhoeddus. Mae hyn yn dilyn mentrau eraill a amlinellwyd gan y Gweinidog, megis cynllun y Siopwr Dirgel, sydd yn anelu at adnabod arfer caffael cyhoeddus gwael; diddymu holiaduron Cyn-Gymhwyster ar gyfer holl gontractau gwerth isel, mewn perthynas a hysbysebu holl gontractau dros £10,000 o werth. Mae’r mentrau yma i gyd wedi eu hanelu at gynyddu cyfranogiad busnesau bach i ennill busnes cyhoeddus. Mae’r mentrau wedi eu croesawu gan SCAC (ICPS), sydd, dros nifer o flynyddoedd yn dilyn ymchwil, wedi argymell fod camau fel hyn yn cael eu cymryd er mwyn dod â thryloywder i farchnadoedd caffael cyhoeddus, a drwy hynny, yn rhoi cyfle i fusnesau llai gael cyfle gwell i ennill contractau cyhoeddus.
Wrth groesawu cyhoeddiadau’r Gweinidog, anogodd yr Athro Dermot Cahill, Cadair mewn Cyfraith Masnachol, Prifysgol Bangor, i’r Gweinidog fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol, petai’r Llywodraeth yn ail ennill grym ar ôl yr Etholiad Cyffredinol, ac i gymryd ysbrydoliaeth o waith SCAC, Prifysgol Bangor, sydd wedi cynorthwyo awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru i leihau’r amser sydd yn cael ei gymryd i ddyfarnu contractau cyhoeddus i cyn lleied a 40 diwrnod. Mae hyn yn mynd ymhellach nag argymhelliad Llywodraeth y DU o 120 diwrnod.
Fe wnaeth y Gweinidog ddatganiadau mawr eraill, gan gadarnhau fod adeiladwaith carchardy yn Wrecsam o £212 miliwn yn cyflogi dros 75% o weithwyr sydd yn ymwneud â chyfnod adeiladwaith y carchar o gefnwlad y carchar, yn cadarnhau fod yr adeiladwr, LendLease, wedi gwneud ymdrech benderfynol i adael marc economaidd parhaol ar yr ardal, yn dilyn ennill y contract i adeiladu’r carchardy.
Yn olaf, cadarnhaodd y Gweinidog fod y Llywodraeth yn benderfynol i sicrhau fod rheolau taliadau hwyr yn cael eu gorfodi yn drwyadl mewn achosion lle mae’r sector gyhoeddus yn hwyr yn talu i Fentrau Bychan a Chanolig am nwyddau a gwasanaethau.
Mae Wythnos Gaffael yn parhau yfory efo thema “Smart Cities”, ac ar ddydd Iau, fe fyddent yn edrych ar ddatblygiadau newydd yng Nghyfraith Caffael Ewropeaidd. Mae’r Wythnos yn gorffen ddydd Gwener drwy edrych ar flaenoriaethau newydd mewn caffael cyhoeddus a mynediad i Fentrau Bychan a Chanolig.
Fe fydd yr Wythnos yn gorffen nos Wener yn Neuadd y Ddinas, gyda’r Gwobrau Caffael Cenedlaethol, fydd yn cael ei arwain gan Lucy Owen, BBC.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2015