Cyhoeddiadau gan fardd a flogiwr poblogaidd
Mae’r bardd Carol Rumens, Athro Ysgrifennu Creadigol ar Ymweliad yn yr Ysgol Ieithoedd, Ieithyddiaeth a Llenyddiaethau, yn gorffen y flwyddyn 2019 gan gyhoeddi dau lyfr.
The Mixed Urn (Sheep Meadow Press, USA) yw’r ugeinfed casgliad o farddoniaeth gan Carol Rumens. Mae wedi cael adolygiadau gwych, gan gynnwys y canlynol gan Anne Stevenson, awdur About Poems: And How Poems Are Not About:
“Carol Rumens is one of the few women poets writing today whose seriousness is absolute but not closed; whose political beliefs are so enmeshed with her intelligence and sympathetic passions that it is impossible to consider the state of contemporary poetry in Britain without taking her work into account. . . . She retains her feminine voice, but extends her sympathies beyond feminism in sinewy but heart-piercing poems.”
Meddai’r Times Literary Supplement am Carol Rumens yn eu hadolygiad:
“She is a European poet whose imagination goes beyond the confines of Europe, a poet of borders and transit, and the movement across frontiers which makes both the experience of alienation and that of home a relative matter.”
Casgliad o 52 o flogiau ‘Poem of the Week’ poblogaidd am farddoniaeth gan Carol, a’r cerddi cysylltiedig, a gyhoeddwyd yn The Guardian yw Smart Devices (Carcanet Press, Manchester. Yn y deuddeng mlynedd ers iddi fod yn cyfrannu ei blog, mae Carol wedi adolygu rhyw 624 o gerddi, gan gynnwys y clasuron a barddoniaeth newydd. Yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi denu llu o ddarllenwyr triw i’w blogiau.
Ymysg y beirdd sy’n cael sylw mae Tony Conran, Naomi Foyle, Ian Gregson, Anne Stevenson, Karen McCarthy Woolf a W S Graham. Mae gan Tony Conran ac Ian Gregson gysylltiadau cryf â Bangor, gan eu bod yn gyn aelodau staff yn yr Ysgol Saesneg (fel ag yr oedd ar y pryd) tra bu i Naomi Foyle, sy’n uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Chichester, ennill ei PhD o dan Carol Rumens ym Mhrifysgol Bangor.
Treuliodd Carol Rumens lawer o’r gwanwyn a’r haf yn darllen cannoedd o ddarnau a chasgliadau o farddoniaeth newydd fel un o bum beirniad Gwobrau’r Forward Prize. Enillwyr eleni oedd Fiona Benson, Casgliad Orau: Vertigo and Ghost; Stephen Sexton, Gwobr Felix Dennis am y Casgliad Cyntaf Gorau: If all the world and love were young a Parwana Fayyaz, am y Gerdd Unigol Orau am Forty Names.
“Rwy’n gwybod fy mod yn caru darllen ac ysgrifennu barddoniaeth gan fod hyn yn caniatáu i mi fwynhau geiriau heb eu gosod mewn rhesi trefnus a rhesymegol,” meddai.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2019