Cylchgrawn BARN yn 50 oed
Mae’r cylchgrawn Barn, sy’n cynnig ymateb annibynnol a deallus i holl gyffro’r Gymru gyfoes a gweddill y byd, yn dathlu ei hanner canmlwyddiant eleni. Mewn cydweithrediad ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, cynhelir derbyniad ar stondin y Brifysgol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth, 7 Awst am 3.30, i lansio rhifyn dwbl yr Haf.
“Mae eleni’n flwyddyn bwysig i Barn, gan fod y cylchgrawn yn dathlu ei ben-blwydd yn 50 oed. I nodi’r garreg filltir, rydym yn cynnal gweithgareddau arbennig ar faes Eisteddfod Bro Morgannwg. Bydd darlith gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Canghellor Prifysgol Bangor, ar destun ‘Annibyniaeth Barn’, i’w dilyn gan dderbyniad i lansio rhifyn dwbl yr haf gyda cholofnydd Barn, Shôn Williams.
“Rydym yn falch o’r cyfle hwn i gydweithio â Phrifysgol Bangor – mae hyn yn adlewyrchu cyfraniad cyson aelodau o staff y Brifysgol at y cylchgrawn,” meddai Menna Baines, cyd-olygydd Barn
Dyddiad cyhoeddi: 2 Awst 2012