Cymdeithas Alzheimer yn ymrwymo bron i £2filiwn i chwyldroi ymchwil i ofal dementia
Mae Cymdeithas Alzheimer wedi cyhoeddi ar 20fed Mehefin ei bod wedi ymrwymo bron i £2filiwn i grŵp o brifysgolion a sefydliadau yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Prifysgol Bangor, fel rhan o'i buddsoddiad unigol mwyaf erioed mewn ymchwil gofal dementia. Arweinir y cynllun gan Brifysgol Caerwysg.
Buddsoddir y grant ymchwil dros bum mlynedd gan alluogi ymchwilwyr arbenigol ym Mhrifysgol Caerwysg i greu 'Canolfan Rhagoriaeth'. Bydd y Ganolfan yn canolbwyntio ar wella ansawdd bywyd i bobl â dementia a rhoi hwb i nifer o ymchwilwyr sy'n gweithio ym maes gofal dementia.
Dywedodd Colin Capper, Pennaeth Datblygu Ymchwil y Gymdeithas Alzheimer: "Mae’n debygol mai dementia fydd y lladdwr mwyaf yn yr unfed ganrif ar hugain ac ar hyn o bryd does dim gwella iddo. Gyda 850,000 o bobl yn byw gyda dementia, a disgwyl i’r nifer yma godi, mae brys mawr i ddarparu gofal da ar gyfer pobl â dementia. Fodd bynnag, nid yw’r gofal presennol bob amser o’r safon y mae pobl â dementia yn ei haeddu, gyda rhai gwaetha’r modd yn cael bywyd o ansawdd gwael.”
"Heddiw rydym yn gosod y sylfeini ar gyfer adeiladu rhwydweithiau o ymchwilwyr rhyngwladol cydnabyddedig mewn gofal dementia yn y DU. Rydym yn gwneud buddsoddiadau mawr a fydd yn cyfrannu’n helaeth tuag at wella gofal a chymorth i bobl yr effeithir arnynt gan ddementia."
Bydd grant ymchwil Prifysgol Caerwysg yn ariannu ail gam astudiaeth genedlaethol ar raddfa fawr o’r enw Improving the Experience of Dementia and Enhancing an Active Life (IDEAL). Mae’n gweithredu er 2014 a’i nod yw deall sut i helpu pobl i fyw yn dda gyda dementia gan ystyried profiadau pobl sydd â dementia, a'u gofalwyr, dros gyfnod o chwe blynedd.
Mae’r astudiaeth yn cynnwys ymchwilydd o Fangor, Dr John Hindle, ac mae’n gynllun ar y cyd dan arweiniad Caerwysg gyda phrifysgolion Caerdydd, Brunel, Newcastle a Sussex, King’s College Llundain, Ysgol Economeg Llundain, y Ganolfan RICE yng Nghaerfaddon ac Innovations in Dementia CIC.
Mae'n cynnwys 1,570 o bobl â dementia ysgafn i gymedrol a 1,300 o ofalwyr. Cafodd y cyfranogwyr eu cyfweld gan ymchwilwyr arbenigol yn eu cartrefi i ddechrau rhwng 2014 a 2016 ac yna drachefn ar ôl 12 mis a 24 mis.
Ynghyd â galluogi’r astudiaeth i barhau am dair blynedd bellach, bydd y cyllid yn caniatáu i ymchwilwyr ychwanegu profiadau pobl o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig a phobl gyda dementia dwys. Ar ddiwedd yr astudiaeth, bydd yr ymchwilwyr yn defnyddio eu canfyddiadau i osod canllawiau ar sut i helpu pobl yr effeithir arnynt gan ddementia i gael bywyd o’r ansawdd gorau posibl.
Dywedodd yr Athro Linda Clare o Brifysgol Caerwysg a chyn academydd o Fangor, sy'n arwain y rhaglen ymchwil: "Mae'r cyllid hwn yn caniatáu inni arwain cynllun cydweithredol cenedlaethol i wella ansawdd bywyd i bobl â dementia. Mae'n hanfodol bwysig bod pobl â dementia yn gallu byw mor dda â phosibl. Bydd y Ganolfan Ragoriaeth yn cefnogi'r flaenoriaeth frys, a bydd ein gwaith ymchwil sylweddol yn gwella ein dealltwriaeth o ba ffactorau sy'n dylanwadu ar bobl sydd â dementia o ran cael bywyd o ansawdd da fel mae’r cyflwr yn gwaethygu. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu strategaethau a mentrau a fydd yn gwneud gwelliannau go iawn i bobl sy'n byw â dementia ar gamau gwahanol o'u cyflwr."
Dywedodd yr Athro Bob Woods, Cyfarwyddwr y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor: "Rydym yn croesawu'r buddsoddiad hwn mewn ymchwil gan Gymdeithas Alzheimer i’r hyn sy’n helpu pobl sydd â dementia a'u cefnogwyr i gael profi gwell ansawdd bywyd. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda’n cyn-gydweithiwr, yr Athro Linda Clare, a’r tîm yng Nghaerwysg i fynd â’r gwaith pwysig hwn ymlaen."
Roedd Keith Oliver, o Gaint, yn brifathro llwyddiannus pan gafodd ddiagnosis o dementia sy'n dechrau'n gynnar pan oedd ond yn 54 oed. Mae wedi rhoi'r gorau i weithio erbyn hyn, ac wedi mabwysiadu ystod o strategaethau, megis cadw dyddiadur manwl i gefnogi ei amserlen brysur o waith i godi ymwybyddiaeth o faterion dementia. Dywedodd Keith, sy’n aelod ar Fwrdd Cynghori IDEAL: "Mae cael ymchwil ar raddfa fawr, tymor hir, mor bwysig i ddyfodol gofal dementia. Rwy’n hyderus y bydd yn cynhyrchu gwybodaeth ardderchog a fydd yn bwydo i mewn i gynlluniau gofal pobl pan fyddant yn cael diagnosis o ddementia. Dim ond trwy ddod i wybod mwy am ddementia y gallwn gefnogi pobl i gael bywyd da gyda dementia."
Bydd buddsoddiad unigryw Cymdeithas Alzheimer yn caniatáu i fwy o ymchwilwyr fynd i'r afael â rhai o'r problemau mwyaf dybryd mewn ymchwil gofal dementia a sicrhau bod y DU ar y trywydd iawn i fod yn arweinydd byd mewn darparu’r gofal gorau posibl i bobl â dementia.
Meddai Colin Capper ymhellach: “Mae meddwl am botensial y Canolfannau Rhagoriaeth i wella gofal yn gyffrous iawn ac rydym yn gobeithio sefydlu canolfannau pellach dros y blynyddoedd i ddod.
Mae’r canolfannau hyn yn enghraifft ragorol o’r ffordd y gall gweithio’n unedig yn erbyn dementia, a gwrando ar y rhai y mae’n effeithio arnynt, ynghyd ag ymchwil o’r radd flaenaf, beri newidiadau gwirioneddol a pharhaol. Mae hwn yn gyfle unigryw i gydweithio gyda darparwyr gofal iechyd a chymdeithasol a gwneuthurwyr polisi.”
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2017