Cymdeithas Drama Saesneg Prifysgol Bangor yn cyflwyno trasiedi hanesyddol ac eiconig Saunders Lewis, Siwan
Cyfieithwyd gan Joseph P Clancy
Bydd Cymdeithas Drama Saesneg Prifysgol Bangor yn llwyfannu cynhyrchiad o’r drasiedi Siwan gan Saunders Lewis ar y 23ain a'r 24ain o Dachwedd am 7:30pm, yn Theatr Bryn Terfel, Pontio.
Dywedodd Ryan Neil Proudlove, sy'n chwarae rhan Llywelyn "Heb wybod dim am y ddrama yn flaenorol, mae wedi agor fy llygaid i arddull huawdl a barddonol Saunders Lewis. Mae'r perfformiad hwn yn cyflwyno pob cymeriad ynghyd â’u dyheadau a’u brwydrau yn grefftus. Bydd y gynulleidfa yn cydymdeimlo gyda chymeriad trasig Llywelyn, ond gall ei gariad tragwyddol tuag at Siwan effeithio ar ei natur."
Dywedodd y cyfarwyddwr, Jessica Lauren Foster, "Rwyf wrth fy modd ein bod am gyflwyno cyfieithiad Saesneg o Siwan. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chast mor dalentog, ar beth rwy’n credu yw drama fwyaf Cymru. Wedi ei lleoli yn Nheyrnas Frenhinol Gwynedd, ar noswyl o Fai yn 1230, mae Siwan, plentyn siawns Brenin John a gwraig Llywelyn Fawr yn gwneud dewis sy’n arwain at golli ei rhyddid a’i chariad, a hynny dros Guillame de Barose, Arglwydd y Gororau. Mae’ r ddrama hanesyddol hon yn archwilio themâu cariad, chwant, maddeuant ac unigrwydd."
Nos Fercher 23 / Nos Iau 24 Tachwedd, 7.30pm
Theatr Bryn Terfel, Pontio, Bangor
£5/£6
Tocynnau o www.pontio.co.uk neu 01248 38 28 28
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2016