Cymdeithas Gomedi Bangor yn Cefnogi Seann Walsh
Bydd myfyrwyr y Gymdeithas Gomedi ym Mangor yn perfformio sioe gomedi byw gyda’r digrifwr enwog Seann Walsh, mewn cydweithrediad â Pontio ar y 6ed o Fai 2013.
Wedi eu harwain gan Patrick “Paddy” Prichard sydd yn fyfyriwr yn ei drydedd flwyddyn yn astudio Saesneg ac Astudiaethau’r Cyfryngau, bydd y gymdeithas hefyd yn cynnal sioe Gala ar yr 22ain o Ebrill a fydd yn cynnwys cystadleuaeth. Bydd yr enillydd, a fydd yn cael ei ddewis gan banel o 3 beirniad yn cynnwys cynrychiolydd o Pontio, yn cael y cyfle i berfformio set i gynhesu cynulleidfa Seann Walsh, ochr yn ochr â ImpSoc (grŵp comedi ar y pryd sydd hefyd yn perthyn i’r gymdeithas gomedi).
Mae gan Gymdeithas Gomedi Bangor tua 40 o aelodau sy’n perfformio ar hyn o bryd ac mae’r gymdeithas wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Maent wedi cyflwyno nifer o sioeau drwy gydol y flwyddyn a hyd yn oed wedi cefnogi Phil Jupitus yng Ngŵyl Gomedi'r Giddy Goat y llynedd. Mae’r gymdeithas yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn ysgrifennu, cynhyrchu, perfformio neu gyfarwyddo comedi i gysylltu â nhw neu i fynychu un o’i sioeau ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau neu eu sioeau yn y Belle Vue ym Mangor Uchaf bob pythefnos.
Mae’r cyfle i berfformio ar yr un llwyfan a Seann Walsh yn rhoi’r cyfle i Gymdeithas Gomedi Bangor droedio ar y llwybr proffesiynol yn y byd Comedi; diwydiant sydd yn anodd iawn i gael eich pig i mewn iddi. Dywedodd Patrick,
“Rwyf wedi bod yn gweithio tuag at gynnal sioe ar y cyd efo Pontio ers i mi gychwyn fel Llywydd y Gymdeithas Gomedi'r llynedd. Rwyf ar ben y byd i fedru cynnig y cyfle anhygoel yma i aelodau’r gymdeithas a chredaf ei fod yn cyfleu'r camau mawr y mae’r gymdeithas yn eu cymryd i greu cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol.”
Mae Seann Walsh, seren y rhaglen “Stand up for the Week” ar Channel 4 yn seren ar ei gynnydd ac yn ffynnu ar anrhydeddau megis Digrifwr y Flwyddyn gan y Leicester Mercury, Enwebiad ar gyfer y Perfformiwr Newydd Gorau Chortle 2010 ac Enwebiad Cyflwynydd Gorau Chortle 2011.
Ychwanegodd Patrick ei fod yn fraint i gael y cyfle hwn. Dywedodd,
“Dymunaf ddiolch yn fawr iawn i Pontio ar ran Cymdeithas Gomedi Bangor am ein gwahodd ni i fod yn rhan o’r digwyddiad yma ac am eu cefnogaeth ac anogaeth. Gobeithiaf y bydd y gymdeithas yn parhau i weithio’n agos gyda Pontio ar brojectau eraill tebyg yn y dyfodol!"
Mae’r gymdeithas yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn gam enfawr tuag at wireddu eu nod tymor hir. Eglurodd Patrick,
“Ein huchelgais yw bod y brif ffynhonnell ar gyfer sioeau comedi a thalent yn ardal Bangor ac i fedru rhannu ein gwaith trwy sianeli proffesiynol ac i fynd a’n comedi i Ŵyl Ymylol Caeredin.”
Mae tocynnau ar gyfer Seann Walsh ar gael am £8 ac yn cynnwys mynediad am ddim i Gala Cymdeithas Gomedi Bangor, sydd fel arall yn £3. Cewch brynu eich tocynnau ar noson y Gala neu drwy’r Gymdeithas Gomedi yn uniongyrchol.
Fel rhan o Gynllun Pontio, dim ond un o nifer o ddigwyddiadau yw’r sioe gomedi a fydd yn cael eu cynnal gan Pontio dros y misoedd nesaf. Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau Pontio, ewch i’r wefan: www.pontio.co.uk
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2013