Cymdeithasegydd o Brifysgol Bangor yn Niwrnod Ewrop yn Kazan, Ffederasiwn Rwsia
Roedd yr Athro Howard Davis yn un o’r siaradwyr gwadd mewn trafodaeth gyhoeddus ar y pwnc ‘Crefydd ac Amrywiaeth’ a gynhaliwyd yn Kazan, prifddinas Gweriniaeth Tatarstan, Ffederasiwn Rwsia, ar 26 Mawrth 2011. Roedd yr achlysur yn rhan o ŵyl a noddwyd gan y Ddirprwyaeth o’r Undeb Ewropeaidd i Rwsia. Mae Tatarstan yn rhan ddatblygedig yn economaidd o Rwsia Ewropeaidd gyda phoblogaeth gymysg o Dartariaid a Rwsiaid a chymysgedd o Gristnogion Uniongred a Mwslemiaid. Mae Howard Davis wedi ymweld yn rheolaidd â Kazan mewn perthynas â datblygiad addysg uwch a phrojectau ymchwil ym Mhrifysgol Ffederal Kazan a phrifysgolion eraill yn rhanbarth canolog y Volga.
http://eng.tatar-inform.ru/news/2011/03/18/35123/
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2011