Cymorth Canser Macmillan yn buddsoddi £300,000 i wella gofal canser y Brostad yng Ngogledd Cymru
Mae Cymorth Canser Macmillan wedi buddsoddi bron i £300,000 i ariannu prosiect a fydd yn helpu cleifion canser y Brostad yng Ngogledd Ddwyrain Cymru i gael eu gofal yn nes at eu cartref.
Mae’r elusen wedi buddsoddi’r arian i ymchwilio i ffyrdd o alluogi cleifion canser y brostad yn Ysbyty Maelor Wrecsam sydd â chanser sefydlog i gael yr apwyntiadau dilynol yn y gymuned gyda'u meddyg teulu, eu tîm nyrsio ardal a thîm y feddygfa.
Bydd hyn yn golygu nad oes angen iddyn nhw deithio i’r ysbyty ac y gallan nhw gael y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i ailadeiladu eu bywydau’n nes at eu cartref.
Mae’r ymchwil yn cael ei harwain gan yr Athro Clare Wilkinson, Athro Ymarfer Meddygol a Chyfarwyddwr Ymchwil yng Ngholeg Clinigol Gogledd Cymru ym Mhrifysgol Bangor, a’r Athro Matthew Makin, ymgynghorydd gofal canser datblygedig a phennaeth y staff ar gyfer Grŵp Rhaglenni Clinigol Canser ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Canser y brostad yw’r canser mwyaf cyffredin mewn dynion ac amcangyfrifir bod tua 4,000 o ddynion yng Ngogledd Cymru’n byw gyda’r cyflwr.
Yn ogystal, mae Macmillan wedi buddsoddi £225,000 pellach i brofi ffyrdd newydd o gefnogi pobl sy’n byw gyda chanser a’r tu hwnt iddo yng Ngogledd Cymru gan ganolbwyntio ar y cyfnod pan fydd eu triniaeth wedi gorffen.
Mae’r elusen wedi gwneud hyn drwy ariannu pedair swydd newydd gan gynnwys nyrsys Gofal Cymunedol Macmillan ym Mhrestatyn a Phlas Madog, Wrecsam, a Nyrs Gofal Sylfaenol Macmillan yn Llangollen a Chydlynydd Gofal Canser Macmillan yn Ysbyty Wrecsam Maelor.
Meddai’r Athro Makin: “Mae hon yn bartneriaeth gyffrous rhwng Cymorth Canser Macmillan, Canolfan Gogledd Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol ym Mhrifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan ganolbwyntio ar wella a datblygu gwasanaethau cynhwysfawr sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yng Ngogledd Cymru.
“Rydyn ni’n ymddiddori’n arbennig mewn ffyrdd o roi gofal a chymorth i bobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw o ran eu gwellhad a’u hiechyd a’u lles ar ôl triniaeth canser.
“Yr amcan yw i bob unigolyn sydd wedi gorffen triniaeth gychwynnol am ganser y brostad gael cynnig derbyn asesiad penodol a chynllun gofal ysgrifenedig personol iddyn nhw. Mae hyn gan fod diwedd triniaeth yn gyfle allweddol i roi gwybodaeth am reoli canlyniadau tymor hir posib.
“Gall y rhain gynnwys anawsterau gyda’u coluddion, gwneud dŵr neu allu rhywiol.
“Hefyd byddan nhw’n cael gwybod â phwy y dylen nhw gysylltu os oes ydyn nhw’n gofidio neu bryderu am unrhyw beth.
“Felly bydd gofyn am wasanaethau sy’n ymateb i anghenion unigol ac sy’n sicrhau mynediad i ofal arbenigol yn ddiymdroi pan fydd ei angen.”
Meddai’r Athro Wilkinson: “Gwyddom o ymchwil flaenorol fod gan ddynion sy’n byw gyda chanser y brostad amrywiaeth o broblemau y maen nhw’n ei chael hi’n anodd siarad amdanyn nhw.
“Rydym wrth ein bodd o gael gweithio gyda Macmillan, timau wroleg Gogledd Cymru a’n cydweithwyr gofal sylfaenol, i roi gofal mwy holistaidd i’r dynion hyn.
“Byddwn ni hefyd yn cynhyrchu tystiolaeth ymchwil a fydd yn gymorth i roi’r gofal gorau yn y dyfodol.”
Meddai Suan Morris, Rheolwr Cyffredinol ar gyfer Cymorth Canser Macmillan yng Nghymru: “Mae Cymorth Canser Macmillan wrth eu bodd o fod wedi ariannu’r prosiect hwn i roi gwell cymorth i gleifion canser y brostad yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
“Gwyddom fod teithio i apwyntiadau ysbyty ac yn ôl adref yn gallu bod yn straen, yn llyncu amser ac yn ddrud felly bydd cael triniaeth yn y gymuned yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gleifion canser.
“Hefyd rydym wrth ein bodd o gael ariannu’r pedair swydd Macmillan newydd i helpu cleifion canser yng Ngogledd Cymru sydd wedi gorffen eu triniaeth i dderbyn y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
“Mae hi’n hanfodol fod pobl yn cael gofal a chymorth sydd wedi’u teilwra’n unigol iddyn nhw, sy’n ymwneud â materion sy’n amrywio o sgil effeithiau tymor hir i’w sefyllfa ariannol a’n bod yn symud ymlaen o gynnig ‘yr un peth i bawb’.
“Ein gobaith yw y bydd y prosiectau rydyn ni’n eu hariannu yng Ngogledd Cymru’n paratoi’r ffordd i wella gofal i bobl sy’n byw gyda chanser ledled Cymru.”
- Ddydd Iau 14 Mawrth, i ddynodi Mis Ymwybyddiaeth Canser y Brostad, bydd stondin gyda gweithwyr proffesiynol a all gynnig gwybodaeth a chyngor ynghylch canser y brostad ger mynedfa Ysbyty Maelor Wrecsam. Bydd ar agor o 10am. i 12.30pm ac yn ailagor o 1pm i 4pm.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2013