Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Meave Leakey
Mae Prifysgol Bangor wedi cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Dr Meave Leakey, y palaeontolegydd byd-enwog a raddiodd gyda graddau BSc a PhD o Brifysgol Bangor.
Mae'n un o'r ymchwilwyr uchaf ei pharch ac amlycaf ym maes ymchwilio i darddiad bodau dynol.
Mae ei gwaith yn Affrica gyda thîm ymchwil ym Masn Turkana yn Kenya wedi arwain at ddarganfyddiadau pwysig iawn yn ymwneud â hynafiaid cynharaf yr hil ddynol.
Bu'n gweithio yn Amgueddfeydd Cenedlaethol Kenya o 1969 tan 2001, ac roedd yn bennaeth yr adran balaeontoleg yno o 1982 hyd 2001. Mae'n awr yn parhau â'i hymchwil yn Llyn Turkana fel Ymchwilydd Cyswllt i'r Amgueddfeydd Cenedlaethol.
Yn 1989 daeth yn gydlynydd ymchwil faes yr amgueddfeydd ym Masn Turkana. Yn ystod ei gwaith yn Kanapoi gerllaw yn 1994, daeth ar draws rhai o'r hominidiaid cynharaf i'w canfod hyd yma, gyda'r gweddillion yn cael eu dyddio i dros bedair miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Ym Mawrth 2001 cyhoeddodd Dr Leakey a'i chydweithwyr eu bod wedi darganfod genws a rhywogaeth newydd o hynafiaid bodau dynol, sef Kenyanthropus platyops (dyn wyneb fflat Kenya), a ddyddiwyd i tua 3.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Yna, yn 2012, cyhoeddodd Meave Leakey a'i thîm eu bod wedi darganfod gweddillion rhywogaeth arall, fwy diweddar, yng ngogledd Kenya, Homo rudolfensis, a ddyddiwyd rhwng 1.7 a 1.9 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Roedd y darganfyddiadau hyn yn cadarnhau awgrymiadau cynharach fod H. rudolfensis, gyda'i ymennydd mawr a'i wyneb hir fflat, yn wir yn rhywogaeth wahanol o hominid, a oedd yn byw ochr yn ochr â rhywogaethau dynol eraill.
Meddai'r Athro James Scourse o Brifysgol Bangor: "Mae ei darganfyddiadau rhyfeddol a phwysig wedi dylanwadu'n fawr iawn ar ein dealltwriaeth o darddiad dynolryw. Mae Meave Leakey yn un o wyddonwyr mwyaf blaenllaw'r byd ac mae Prifysgol Bangor yn hynod falch ei bod yn awr yn un o'i Chymrodyr er Anrhydedd, yn ogystal ag un o'i graddedigion."
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mai 2014