Cymrodoriaeth er Anrhydedd i'r Athro John Ashton gan Sefydliad y Bancwyr Siartredig
Mae'r Athro John Ashton wedi cael Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Sefydliad Bancwyr Siartredig yr Alban.
Mae'r Gymrodoriaeth yn cydnabod cyfraniad sylweddol yr Athro Ashton i ymchwil ac addysg yn y maes bancio. Wrth ei anrhydeddu cyfeiriwyd at ei gyfraniadau niferus at ymchwil ym meysydd rheoleiddio ariannol ac economeg bancio, yn ogystal â’i gyfraniadau niferus i bolisi yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Nodwyd hefyd ei ymrwymiad hirdymor wrth ymwneud â'r sector proffesiynol a'i gyfraniad i addysg bancio.
Yn ei swydd fel Athro Bancio, mae'r Athro Ashton yn cyflawni swyddogaethau amrywiol yn Ysgol Busnes Bangor, gan gyfrannu at addysgu, cyhoeddi, gweinyddu a golygu'r Journal of Financial Regulation and Compliance. Ef yw Cyfarwyddwr Academaidd MBA Bancwyr Siartredig Bangor, rhaglen ddysgu gymysg ac unigryw y mae dros 500 o fancwyr o bob rhan o'r byd wedi ei chwblhau hyd yma.
Wrth sôn am y wobr, meddai'r Athro John Ashton: "Mae'n deimlad braf iawn cael y Gymrodoriaeth. Mae'r wobr yma hefyd yn adlewyrchu gwaith caled fy nghydweithwyr o fewn y grŵp Bancio a Chyllid yn Ysgol Busnes Bangor."
Mae'r MBA Bancwyr Siartredig wedi ei chynllunio ar gyfer bancwyr proffesiynol profiadol ac mae'n canolbwyntio ar ddatblygu proffesiynoldeb ac ar wella arweinyddiaeth, ymarfer moesegol a rheolaeth risg. Hwn yw'r unig gymhwyster yn y byd sy'n cyfuno MBA gyda statws Banciwr Siartredig, a'r statws honno yw'r dyfarniad proffesiynol uchaf posibl sydd ar gael i fancwyr yn unrhyw ran o'r byd.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2016