Cymru - prynu ei ffordd i economi gref
Mae cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ynglŷn â Datganiad Polisi ar Gaffael yng Nghymru wrth i’r Wythnos Gaffael Flynyddol agosáu, a hwnnw’n ddigwyddiad rhyngwladol o bwys, yn sicr o achosi cynnwrf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Mewn Datganiad Ysgrifenedig, mae Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Gyllid, Jane Hutt A.C., yn pennu cyfres o egwyddorion a ddylai fod yn sail i gaffael gan y Sector Cyhoeddus yng Nghymru, ac yn nodi disgwyliad y bydd yn cydymffurfio â pholisïau Llywodraeth Cymru ar Gaffael.
Mae datganiad y Gweinidog yn dilyn y croeso a roddodd i Adroddiad McClelland (“Maximising the impact of the Welsh procurement Policy”), y mae ei gynnwys yn sicr o fod yn destun trafod ymysg rheoleiddwyr ac ymarferwyr ym maes caffael sydd ar fin dod ynghyd ym Mhrifysgol Bangor University ar gyfer yr Wythnos Gaffael.
Mae gan John McClelland CBE ddylanwad – mae ei adroddiad blaenorol ar gaffael yn yr Alban wedi ysgogi newidiadau deddfwriaethol radicalaidd yn y modd y mae Llywodraeth yr Alban yn ymdrin â chaffael cyhoeddus. Yn awr, yn ei adroddiad dyddiedig 2012 ar gyfer Llywodraeth Cymru, mae’n canmol polisïau Cymru, gan ddweud eu bod yn flaengar iawn, ac yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i fynd gam ymhellach, a gosod dyletswydd gyfreithiol ar yr holl gyrff cyhoeddus i weithredu polisïau Llywodraeth Cymru ar gaffael.
Er nad yw’r Gweinidog Hutt yn mynd mor bell â hyn, mae bron yn sicr yr aiff hi ryw fymryn ymhellach os oes angen, gan ddweud: “Nid oes rhesymau nac esgusion i’r holl gwmnïau beidio â mabwysiadu [Datganiad Polisi Llywodraeth Cymru], a dylent wneud hynny’n ddi-oed.” Parhaodd y Datganiad: “Mae gan y sector cyhoeddus, yn cynnwys Llywodraeth Cymru, gyfrifoldeb torfol dros sicrhau ein bod yn defnyddio arian cyhoeddus yn ddoeth, er budd pobl Cymru, a dyletswydd i sicrhau bod y medrau a’r adnoddau priodol ar gael.”
Mae hyn o arwyddocâd penodol o gofio bod gwerth y contractau cyhoeddus a enillwyd gan gwmnïau o Gymru wedi cynyddu o 37% i 51% ers pum mlynedd (lle mae gwariant ar gaffael gan y sector cyhoeddus yn rhyw £4.3 biliwn y flwyddyn, sef traean o wariant cyffredinol Cymru ar y sector cyhoeddus).
Mae rhai enghreifftiau o’r dull radicalaidd a ddefnyddir yng Nghymru yn cynnwys gofyn gan Lywodraeth Cymru am hysbysebu holl gontractau’r sector cyhoeddus unwaith eu bod yn cyrraedd y trothwy cymharol isel o £25,000. Mae hyn yn unol ag argymhelliad allweddol gan y Barriers to Procurement Opportunity Report (2009) a gyd-awdurwyd gan yr Athro Dermot Cahill, Cadeirydd y Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael ym Mangor sydd wedi ennill bri rhyngwladol. Yn ôl Cahill, “Trwy hysbysebu, bydd y cam unigol hwn yn amlygu’r amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer tendro cyhoeddus sydd ar gael i gwmnïau bach a chanolig – enghraifft wirioneddol o rymuso trwy roi gwybodaeth. Yn ei dro, bydd tryloywder yn hybu’r newid sydd ei angen er mwyn diwygio’r prosesau sy’n gysylltiedig â chaffael sy’n rhy gymhleth ac yn aml wedi’u cynllunio’n wael, ac nad ydynt yn ateb anghenion y naill barti na’r llall yn y drefn dendro.”
Erbyn hyn, mae’r 15 Argymhelliad Allweddol arall a nodwyd yn Adroddiad Barriers wedi’u mabwysiadu’n ffurfiol fel rhan o’r Rhaglen ar gyfer Llywodraethu yng Nghymru, ac mae Gwerth Cymru, is-adran gaffael Llywodraeth Cymru, wrthi’n eu rhoi ar waith.
Un o ganfyddiadau syfrdanol adroddiad McClelland oedd bod amrywiaeth enfawr o ran nifer y staff caffael a maint y gwariant ar draws gwahanol awdurdodau lleol yng Nghymru, a’i ganfyddiad, o ganlyniad, mai po isaf nifer y staff caffael i bob £10m o wariant ar nwyddau a gwasanaethau, mwyaf tebygol yr oedd contractau o gael eu hennill gan gwmnïau o’r tu allan i Gymru. Mewn ymateb, mae’r Gweinidog Hutt wedi cyhoeddi bod rhaglen o ‘wiriadau ffitrwydd’ i’w chynnal, yn benodol mewn Llywodraeth Leol, i sicrhau bod yr holl sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn rhoi sylw priodol i unrhyw ddiffygion a fo o ran medrau neu alluoedd cysylltiedig â chaffael.
Mae’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru yn cael sylw ar raddfa ehangach. Bydd presenoldeb Pennaeth yr Undeb Caffael Cyhoeddus ac Eiddo Deallusol o fewn y Comisiwn Ewropeaidd, Anders Jessen, sydd â phrofiad helaeth o ymdrin, yn Washington ac ym Mrwsel, â chytundebau rhyngwladol cymhleth ynglŷn â masnachu byd-eang. Bydd 30 o arweinyddion ac ymarferwyr eraill ym myd caffael byd-eang hefyd yn bresennol, yn cynnwys Ombwdsmon Canada dros Gaffael, Frank Brunetta, Dirprwy Bennaeth Gwasanaeth Gwrth-fonopoli Ffederasiwn Rwsia, Andrei Yunak, Sammy Rashed o Novartis, a’r Athro George Schooner o Brifysgol George Washington.
Bydd Wythnos Gaffael 2013 yn archwilio themâu megis y sialensiau sy’n wynebu gwledydd BRIC wrth iddynt foderneiddio eu dulliau o gaffael ac ymgysylltu â chyfundrefn Sefydliad Masnach y Byd (ETO) ar gaffael; Arloesi a Thirwedd Newidiol Caffael; Cyfraith Caffael Cyhoeddus a Sut i Ysgrifennu Tendrau Da.
Meddai Ian Price, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cynorthwyol, CBI Cymru a De-Orllewin Lloegr: “Mae caffael gan y sector cyhoeddus yn un o’r prif sbardunau y gellir ei ddefnyddio i symbylu’r economi yng Nghymru. Gall yr Wythnos Gaffael godi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r modd y gellir gwella’r sefyllfa bresennol. Mae ein haelodau’n dal i fynegi llawer o bryderon ynglŷn â’r drefn yng Nghymru. Mae’r CBI yn gwerthfawrogi barn yr Athro Dermot Cahill a’i dîm ICPS. Lluniodd yr Athro Cahill un o’r darnau gorau o waith yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar gaffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn The Barriers to Procurement Opportunities Report.”
Mae Ian Forrester Mowatt, Cyfarwyddwr Dros Dro Partneriaeth Caffael Gogledd Cymru, consortiwm o fewn llywodraeth leol, yn cefnogi rhaglen Ynys Ynni o ran paratoi a helpu busnesau lleol i fod mor gystadleuol â phosibl wrth gynnig am gontractau. Mae Ian wrthi’n llunio adroddiad ar ‘Regional Supply Chain Development’ lle mae’n cyflwyno argymhellion ar y ffordd orau o ymgysylltu â’r gadwyn gyflenwi, ac yn benodol â chwmnïau bach a chanolig. Meddai: “Mae Wythnos Gaffael Prifysgol Bangor yn rhoi cyd-destun cenedlaethol a rhyngwladol, ac yn dangos arfer blaenllaw yn y maes. Mae hefyd yn hanfodol cysylltu theori ag ymarfer. Mae gan y Sefydliad Astudiaethau Cystadleuaeth a Chaffael ym Mangor hanes o lwyddiant o ran darparu ymchwil effeithiol sy’n dod yn sail wedyn ar gyfer gweithgareddau ac ymddygiadau effeithiol.”
Bydd yr Wythnos Gaffael yn gorffen gyda’r seremoni gyntaf i gyflwyno Gwobrau Cenedlaethol Cymru ym maes Caffael, a gyflwynir i unigolion, cwmnïau a sefydliadau am amlygu arweinyddiaeth, rhagoriaeth ac arloesi o ran caffael a thendro.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2013