Cymru yn perfformio gryn dipyn yn well na'r disgwyl o ran ymchwil, effeithlonrwydd ac effaith
Mae defnydd Cymru o gyllid ymchwil yn gynhyrchiol ac yn effeithlon iawn, gan wneud yn well o lawer na gwledydd cymharol o faint tebyg, yn ôl adroddiad annibynnol a lansiwyd heddiw (6.2.14).
Wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a phrifysgolion Cymru, roedd ‘Perfformiad Cymharol Rhyngwladol Sail Ymchwil Cymru 2013', a wnaed gan Elsevier, yn edrych ar sail ymchwil prifysgolion, sefydliadau ymchwil, diwydiant a'r GIG yng Nghymru ac yn cymharu eu cyfraddau cyhoeddi a'u heffaith â gwledydd cymharol er mwyn dangos buddion ac elw buddsoddiad cyhoeddus ym maes ymchwil prifysgolion.
Dyma'r dadansoddiad cynhwysfawr cyntaf sy'n seiliedig ar dystiolaeth o weithgarwch ymchwil Cymru ac effaith ymchwil cymharol yn y cyfnod datganoli, ac mae'n adroddiad cadarnhaol ar gyfer y sector yng Nghymru. Gan ddefnyddio ystod o indecsau cyllid a chanlyniadau ymchwil, canfu'r astudiaeth fod Cymru'n perfformio'n well na chyfartaledd y DU o ran cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, ac mai hi yw un o'r gwledydd mwyaf effeithlon yn y byd o'i chymharu â gwledydd eraill o faint tebyg. Yn ogystal, er bod Cymru'n cyhoeddi nifer cymharol fach o gyhoeddiadau, mae wedi cynyddu ei heffaith cyfeiriad a bwysolwyd ar sail maes - sydd 58% yn uwch na chyfartaledd y byd - ac mae'n effeithlon iawn wrth drosi ei lefelau cymharol isel o incwm ymchwil i ymchwil effaith uchel.
Mae canfyddiadau eraill yn cynnwys y ffaith bod mewnlif o ymchwilwyr i Gymru wedi cynhyrchu'r effaith cyfeiriad a bwysolwyd ar sail maes uchaf, dros 80% yn uwch na chyfartaledd y byd, sy'n awgrymu bod Cymru'n wlad ddeniadol i ymchwilwyr ddod i fyw ynddi.
Mae canlyniadau adroddiad Elsevier yn grynodeb ysgogol sy'n seiliedig ar dystiolaeth o weithgarwch ymchwil Cymru ers datganoli a'i gyfraniad gwerthfawr i sail ymchwil y DU, sydd o'r radd flaenaf. Yn ystod y degawd diwethaf, mae Cymru wedi symud o'r safle olaf a bellach mae hi gyda'r gwledydd gorau sydd yr un maint â hi yn y byd ym maes ymchwil, ac mae canlyniadau'r adroddiad yn cadarnhau bod safon yr ymchwil o brifysgolion Cymru yn uchel yn ôl safonau cenedlaethol a rhyngwladol.
Dywedodd Cadeirydd Addysg Uwch Cymru, Yr Athro Colin Riordan: "Mae adroddiad heddiw'n rhoi cipolwg defnyddiol o weithgarwch ymchwil Cymru. Mae'r canlyniadau'n dangos mor bwysig yw sicrhau buddsoddiad cyhoeddus parhaus yn ein prifysgolion ac yn dangos mor ddeniadol yw Cymru fel gwlad ar gyfer ymchwil. Mae ein prifysgolion yn parhau i fod yn ganolog i ddatblygiad y wlad, rhoi grym i'r economi drwy ymchwil o'r radd flaenaf, creu swyddi ac arloesedd sy'n torri tir newydd."
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, David Blaney): "Rydym yn croesawu'r adroddiad hwn, sy'n rhoi sail tystiolaeth gwrthrychol, allanol o berfformiad ymchwil sector addysg uwch Cymru.Rydym wedi'n calonogi gan y darlun gobeithiol y mae'n ei gyflwyno, yn cynnwys y ffordd mae'n dangos bod y sector yn eithriadol o effeithlon wrth droi incwm ymchwil yn ymchwil effaith uchel. Dylai'r adroddiad roi hyder i sefydliadau a'u partneriaid yn arbenigedd a galluoedd sail ymchwil Cymru, ac mae'n tanlinellu mor bwysig yw buddsoddiad parhaus yn ein sefydliadau."
Dywedodd Gweinidog yr Economi a Gwyddoniaeth, Edwina Hart: "Rwy'n falch iawn o ganfyddiadau'r adroddiad hwn sy'n dangos bod Cymru'n cynhyrchu ymchwil o safon uchel a'i bod yn wlad ddeniadol i ymchwilwyr ddod i fyw ynddi. Rydym yn benderfynol o adeiladu ar y gwaith da hwn drwy ddenu mwy o gyllid ymchwil a gwyddonwyr i Gymru drwy fentrau fel rhaglen Sêr Cymru."
Dywedodd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, Julie Williams: "Mae ymchwilwyr yng Nghymru'n haeddu canmoliaeth, rhaid i ni feddwl am yr hyn y gallem ei gyflawni gyda nifer mwy o wyddonwyr. Fy uchelgais yw datblygu'r sail tystiolaeth yng Nghymru, cynyddu nifer yr ymchwilwyr a chynhyrchu amgylchedd sy'n helpu ein talent i ffynnu. Mae'n amlwg bod Cymru'n perfformio'n gryf ac yn cael gwerth da am arian o'i sail ymchwil. Mae llawer o dalent yma eisoes ond mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r angen i gryfhau mewn meysydd fel Peirianneg, Meddygaeth a'r Gwyddorau Naturiol. Rwyf am i ni gryfhau ein capasiti yn y meysydd hynny a bydd yr adroddiad hwn yn werthfawr wrth ddarparu gwaelodlin er mwyn mesur ein cynnydd."
Dyddiad cyhoeddi: 7 Chwefror 2014