Cyn-fyfyriwr nodedig o Fangor yn gadael rhodd hael i Fotaneg Amaethyddol
Fe wnaeth John Trevor Williams (PhD Botaneg Amaethyddol, 1962) gyfraniad enfawr i ddiogelu genynnau cnydau bwyd y byd a nawr mae wedi darparu ar gyfer dyfodol y maes ymhellach drwy adael rhodd o £75,000 i gefnogi Botaneg Amaethyddol ym Mhrifysgol Bangor.
Roedd Dr Williams, a fu farw'n 76 oed yn 2016, yn un o 'dadau'r' hyn a elwir yn Doomsday Vault, sef y ddaeargell enwog yn Svalbard yn Norwy lle mae miliynau o hadau'n cael eu cadw at y dyfodol yn ddwfn o dan rew parhaol yr Arctig.
Yn yr International Board for Plant Genetic Resources yn Rhufain, lle bu'n ysgrifennydd gweithredol ac yna'n gyfarwyddwr rhwng 1974 a 1989, bu'n arwain rhaglen o gasglu, cadw a rhannu'r amrywiadau cnydau y mae ffermwyr wedi eu tyfu ers canrifoedd - sef yr adnoddau genetig sydd eu hangen er mwyn bridio planhigion a gwella cnydau.
Ar y pryd roedd ffermwyr yn defnyddio hadau newydd a oedd yn cynhyrchu cnydau mwy ac roedd llawer o'r amrywiadau traddodiadol mewn perygl o ddiflannu. Un ffordd o ddiogelu amrywiaeth genetig oedd cadw hadau mewn banc genynnau ar gyfer cadwraeth tymor hir. Erbyn iddo ymddeol fel cyfarwyddwr, roedd dros 1,000 o fanciau neu gasgliadau genynnau o amgylch y byd.
Yn ddiweddar fe wnaeth chwaer Dr Williams, y Parchedig Wendy Williams, sydd hefyd yn un o gyn-fyfyrwyr Bangor (MA Astudiaethau Beiblaidd 1957), gyflwyno siec am £75,000 i'r Athro Morag McDonald, Pennaeth Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth. Gadawyd y rhodd hael hon i Brifysgol Bangor gan Dr Williams i hyrwyddo astudiaethau ym maes Botaneg Amaethyddol.
Defnyddir rhodd ragorol Dr Williams i barhau â chenhadaeth ei fywyd i ymchwilio ymhellach i gnydau a'u diogelu.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2018