Cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor yn bwriadu creu nofel wedi ei darlunio
Mae cyn-fyfyriwr Prifysgol Bangor yn gobeithio bydd y gymuned leol yn cefnogi ei ymdrechion i gyhoeddi nofel wedi ei darlunio fer cyntaf.
Mae Daniel Dowsing, o Fangor a dderbyniodd BA Llenyddiaeth Saesneg gyda Ffilm ac MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor, wedi bod yn gweithio fel awdur a dylunydd gemau cyfrifiadur. Yn ddiweddar mae wedi bod yn gweithio gydag artist lleol, Steve Wilson, i greu nofel wedi ei darlunio. Maent wedi cynhyrchu'r chwe tudalen gyntaf, ond erbyn hyn wedi troi at Kickstater i helpu i ariannu argraffu a chwblhau’r prosiect.
Ysgrifennwyd y nofel gan Daniel a'i darlunio gan Steve. Dechreuodd The Wolf fel stori fer a ysbrydolwyd gan erthygl newyddion yn y cylchgrawn Fortean Times. Fe wnaeth Daniel gyfarfod Steve yn ei grŵp ysgrifennu lleol, a gofynnodd i Steve os oedd ganddo ddiddordeb mewn darlunio’r sgript .
Wrth ddisgrifio'r llyfr, dywedodd Daniel: "Mae The Wolf yn stori dywyll gydag elfen o hud arallfydol a osodwyd yn y nosweithiau oer yn nhwndra’r Arctig .
"Un noson daw tref anghysbell o dan warchae cnwd o fleiddiaid. Roedd y bleiddiaid yn dychryn pobl y dref fel pe bae’n chwilio am rywbeth neu rywun. Yng nghanol yr anhrefn, mae’r stori’n dilyn y prif gymeriad, Stieg, wrth iddo geisio mynd o gwmpas y dref mewn ymdrech i achub ei ffrind Antov.
"Rydym wedi lansio ymgyrch Kickstater ar gyfer The Wolf er mwyn codi £5,000 i gwblhau'r prosiect. Mae gennym her 30 diwrnod o’n blaenau, ond mae’r ymateb hyd yn hyn yn hynod o bositif. Gall unrhyw un gefnogi’n prosiect gyda chyn lleied â £1, os na fyddwn yn llwyddiannus, rydym yn addo dychwelyd yr arian at bawb a gyfrannodd."
Mae Daniel a Steve wedi creu amrywiaeth o wobrau, megis gwaith celf wedi’i lofnodi a chynnwys unigryw, ar gyfer eu cefnogwyr os bydd y prosiect yn llwyddiant.
Mae esiampl o waith Steve i’w weld ar ei dudalen Facebook.
Mae gan The Wolf dudalen Facebook eu hunain hefyd.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2014