Cyn fyfyriwr yn cwblhau taith epig 30,000 milltir mewn cerbyd i Dde Affrica ac yn ol
Mae myfyriwr a raddiodd o Brifysgol Bangor newydd gwblhau taith epig 30,000 milltir mewn cerbyd i Dde Affrica ac yn ôl mewn ymgais i godi £10,000 ar gyfer dwy elusen, Link Ethiopia ac Alzheimer’s Research Trust.
Fe wnaeth Carl James o Swydd Buckingham, a raddiodd o Fangor gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Gwyddor Chwaraeon yn 2009, benderfynu cychwyn ar y daith gyda ffrind ysgol, a aeth ag ef drwy 40 o wledydd mewn 11 mis, gan ei fod am gael her newydd ar ôl graddio.
Meddai Carl, 24: “Yn y lle cyntaf, roedden ni am yrru ein car o amgylch cyfandir cyfan Affrica ac ymweld â phrojectau gwerth chweil fel Link Ethiopia (linkethiopia.org) a Right to Dream yn Ghana (righttodream.com) ar hyd y ffordd. Yn ogystal, roedden ni eisiau codi £10,000 ar gyfer Link Ethiopia ac Alzheimer's Research Trust UK, ond doedden ni erioed yn disgwyl i hyn fod wedi’i gyflawni erbyn yr amser y daethon ni yn ôl adref. Roedd honno’n wastad yn mynd i fod yn her tymor hwy.
“Doedden ni ddim eisiau dim ond gyrru am fisoedd yn edrych ar bobl a lleoedd drwy ffenestri ein car. Roedden ni eisiau stopio ac aros mewn llefydd, cymryd rhan, cyfarfod â phobl, gwneud rhywbeth adeiladol a chael pwrpas i’r trip.
“Roedd gweithio gyda Link Ethiopia yn Gondar yn agoriad llygaid gwych ac yn brofiad gwerth chweil.
“Mae’r arian a godwyd ar hyn o bryd ychydig dros £4000, ond gyda nifer o ddigwyddiadau codi arian ar y gweill, gobeithiwn y byddwn yn gallu cyrraedd ein targed o £10,000 yn gyflym iawn.
Ac yntau yn ôl ym Mhrydain yn awr, meddai Carl: “Roedd yna nifer o uchafbwyntiau yn ystod ein taith, ac roeddent yn amrywiol iawn.
“Roedd gyrru yn Congo yn brofiad ynddo’i hun. Ar un pwynt, fe wnaethom gymryd 6 niwrnod i deithio dim ond 100km gan fod y ffordd mor wael a mwdlyd, roedd y car yn mynd yn sownd bob ychydig gannoedd o fetrau.
“Yn naturiol, roedd cyrraedd Die Hel hefyd yn uchafbwynt. Daw’r enw yn syml o’r drafferth wrth ei gyrraedd, oherwydd mae yna fynyddoedd o’i gwmpas yn ardal Little Karoo De Affrica, a chan mlynedd yn ddiweddarach, dydi o ddim haws ei gyrraedd. Cymerodd ddwy awr o yrru ar ymyl dibyn i’w gyrraedd ar ôl gadael y ffordd tarmac.
Ar daith mor hir, fe ddaeth yr hogia, yn anochel, ar draws ambell i broblem ar hyd y ffordd. Meddai Carl: “O safbwynt mecanyddol, roedd rhaid ail-weldio’r siasi yn Kenya ac ailadeiladu’r injan yn Ne Affrica.
“Yn Angola, fe wnaeth dryswch gyda’r dyddiadau ar ein fisas olygu ein bod ni yn y wlad yn anghyfreithlon, ac roedd raid i ni gael cymorth y Llysgenhadaeth Brydeinig i ddod o hyd i’r ffordd orau allan, ar unwaith! Roedd raid i ni hefyd lwgrwobrwyo ein ffordd i mewn i wlad gan fod y rheoliadau ar gyfer mynediad wedi newid, gan olygu y byddai’n rhaid i ni fod wedi hedfan adref i gael fisas i barhau ar ein taith.
“Ond fe wnaethon ni ddysgu llawer hefyd fel sut i ymdrin â phobl. Cawsom groeso mawr gan ddieithriaid llwyr ar draws y cyfandir enfawr, mewn ffordd nad ydyn ni erioed wedi dod ar ei draws ym Mhrydain.
“Roedd yn rhaid i ni’n dau hefyd ddelio efo’n gilydd, yn gyrru, eistedd, bwyta a chysgu o fewn tua thair troedfedd i’n gilydd am flwyddyn.
“Ar lefel mwy personol, ni fyddai’r project hwn wedi cychwyn heb lawer iawn o waith caled ac ymroddiad. Ar ôl i ni ei wneud, rydan ni'n teimlo nad oes yna lawer o bethau na allwn ni ei wneud.”
Pan ofynnwyd iddo grynhoi’r antur mewn pum gair, dywedodd: “Mecanics, breibs, gwaith papur, elusennau, gwaith caled!”
Ychwanegodd Carl, sy’n paratoi i wneud gradd meistr yn awr: “Does yna ddim cynlluniau ar y gweill am antur arall oherwydd rydan ni wedi dychwelyd adra heb ddim arian. Ond ar ôl i’n cyrsiau meistr fod allan o’r ffordd, efallai y byddwn yn gallu ystyried rhywbeth – mi wnaethon ni grybwyll y syniad o Alaska i’r Ariannin ar fotobeics yn y dafarn y noson o’r blaen!”
Sefydlwyd gwefan i alluogi i’r rhai sydd â diddordeb ddarllen y cyfan am eu hantur, ac i roi arian i’r elusennau. Os ydych chi am wybod mwy, ewch i’w gwefan www.tohelandback.org.uk
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2011