Cyn-fyfyriwr yn ennill gwobr ‘newyddiadurwr y flwyddyn’
Mae cyn-fyfyriwr yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau wedi ennill gwobr newyddiaduraeth fawreddog.
Fe enillodd Noellin Imoh, a raddiodd o Brifysgol Bangor yn 2010, y wobr BEFFTA am ei gwaith yn golygu cylchgrawn African Dazzle.
Dywedodd mai dyma’r gwobrau mwyaf o’u math y tu allan i Affrica, a’i bod hi wedi cyflawni camp y bu hi’n anelu ato ers graddio o Brifysgol Bangor. Derbyniodd y wobr ‘newyddiadurwr y flwyddyn’ mewn seremoni yn Llundain ar 25 Hydref.
“Mae ennill y wobr yn golygu llawer iawn i mi, am mai dyma fy ngwobr gyntaf yn y diwydiant,” meddai Noellin.
“Fe es i’r gwobrau BEFFTA am y tro cyntaf dwy flynedd yn ôl, ac fe wnaeth o argraff fawr arna’i. Fe ddywedais i'r diwrnod hwnnw, ‘Bois bach, fe hoffwn i ennill gwobr o’r fath ryw ddydd’. Doeddwn i ddim yn disgwyl i’r diwrnod hwnnw ddod mor gyflym.
“Ers graddio o Brifysgol Bangor yn 2020 rydw i wedi bod yn gweithio’n galed, ac yn ceisio ennill fy lle yn y diwydiant. Roeddwn i wedi sefydlu cylchgrawn African Dazzle yn gynharach eleni. Rydw i’n teimlo fel ysgrifennwr go iawn, sy’n beth gwych.”
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2013