Cyn-fyfyriwr yn lansio gwasanaeth gwersylla clogwyn herfeiddiol
Llun: ©2015 john houlihan.com
Does dim angen i chi wirioni â’r awyr agored i astudio ym Mhrifysgol Bangor. Fodd bynnag, mae’r nodwedd benodol yma wedi galluogi cyn-fyfyriwr o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, i droi ei angerdd i mewn i fusnes unigryw llwyddiannus.
Ar ôl graddio yn 2011 gyda gradd mewn Datblygu Cynaliadwy, sylweddolodd Sam Farnsworth, 26, o Swydd Dyfnaint nad oedd yn addas ar gyfer gweithio mewn swyddfa, felly defnyddiodd ei radd a’i gymwysterau mynydda proffesiynol i sefydlu cwmni gweithgareddau antur ei hun yn Llanberis, sef Gaia Adventures.
Mae’r cwmni nawr yn cynnwys gweithgaredd unigryw, sef gwersylla ar glogwyn. I’r rhai sy’n ddigon dewr, mae modd gwersylla wrth hongian â rhaffau ar silff gludadwy ar glogwyn yn Rhoscolyn, Ynys Môn.
Esboniodd Sam: "Daeth y syniad ar ôl treulio llawer o amser yn defnyddio silff gludadwy wrth ddringo clogwyni anferth yn y Yosemite a Venezuela. Mae'n lle anhygoel i dreulio amser ac ychydig iawn o bobl, hyd yn oed dringwyr profiadol, sy’n cael y profiad yma. Rydym nawr yn gallu cynnig y profiad antur unigryw yma i gynulleidfa ehangach. Mae hefyd yn gwneud synnwyr i gynnig rhywbeth nad oes neb arall yn y wlad yn ei gynnig, mae’n ein gwahaniaethu o fusnesau eraill.
"Roedd cychwyn y cwmni yn ffordd i mi i bontio fy angerdd am yr amgylchedd, datblygiad cynaliadwy, dringo a mynydda. Cynaliadwyedd yw nod Gaia Adventures drwy'r ffordd yr ydym yn rhedeg y busnes a hefyd trwy gynnwys ein cyrsiau. Mae'r ffordd yr ydym yn rhyngweithio â'r byd naturiol yn datgysylltu oddi wrth yr effeithiau a gawn ar y blaned a'n gilydd. Mae rheoli risg a gwneud penderfyniadau yn rhan o brofiadau awyr agored, ac mae’n bosib gweld y camau gweithredu a’r canlyniadau. Nid yw hyn yn wir gyda nifer o rannau o’n bywydau, felly mae treulio amser yn yr awyr agored yn ffordd bwerus o gael pobl i feddwl am eu heffaith, a sut i'w gwneud yn un gadarnhaol.
"Mae gennym gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol, felly cadwch lygaid ar Gaia Adventures!"
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2015