Cyn-fyfyriwr yn rhedeg busnes ei hun diolch i gefnogaeth y Gwasanaeth Gyrfaeodd
Mae Alumnus o Brifysgol Bangor wedi sefydlu menter gymdeithasol er mwyn annog pobl i fynd allan i’r awyr agored.
Mae gan Tom Cockbill, sy’n wreiddiol o Walsall, Gorllewin Canolbarth Lloegr, radd mewn Sŵoleg a Chadwraeth o Brifysgol Bangor. Mae wedi sefydlu Wild Elements, menter gymdeithasol sydd wedi'i lleoli ym Mangor, ar ôl derbyn cefnogaeth gan Wasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Bangor.
Mae Tom, 32, yn frwd dros ddenu pobl allan i’r awyr agored er mwyn iddynt gael mwynhau'r byd naturiol sydd wedi bod yn gymaint o ysgogiad iddo fo, ac sydd wedi ei ysbrydoli i sefydlu Wild Elements. Dywedodd Tom: "Gyda chymaint o harddwch naturiol ar garreg ein drws yma ym Mangor, rydw i’n teimlo cyfrifoldeb i drosglwyddo fy mhrofiad gwych i o'r awyr agored i bobl eraill."
Mae Tom eisoes wedi cael gradd BSc mewn Sŵoleg a Chadwraeth, MA mewn Rheolaeth Cefn Gwlad a gradd TAR Uwchradd (Bioleg), ac mae wrth ei fodd yn cyfuno ei wybodaeth amgylcheddol ac addysgu drwy redeg y fenter hon.
Manteisiodd Tom ar y sesiynau mentora busnes un-i-un am ddim sydd ar gael drwy gynllun Byddwch Fentrus ym Mhrifysgol Bangor. Cafodd y sesiynau eu hariannu gan Lywodraeth Cymru trwy'r strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid.
Pan ofynnwyd iddo sut y daeth y syniad i fodolaeth, dywedodd Tom, sydd bellach yn byw ym Mangor: "Dechreuodd Wild Elements yn ystod sgwrs gyda ffrindiau a chydweithwyr tra’r oeddwn yng Nghastell Penrhyn a Gardd Fotaneg Treborth. Yna, cefais gefnogaeth, mentora a chyngor gwych gan Tim Ashcroft trwy Byddwch Fentrus, a wnaeth wir fy helpu i fynd i ddechrau busnes. Wedi hynny, cysylltais â Tŷ Gwydr ym Mangor, sydd wedi ymrwymo i annog twf economi lleol cynaliadwy a chefais ddefnyddio swyddfeydd fforddiadwy trwyddynt.
"Nod cyffredinol y fenter yw darparu profiadau awyr agored sy’n hwyl ac yn werth chweil ar draws gogledd Cymru, a thrwy hyn, yn hyrwyddo datblygiad hunanhyder, hunan-barch a lles yr unigolyn.
"Mae'r cwmni yn ceisio rhoi cyfleoedd i wirfoddolwyr a phobl ifanc sy'n chwilio am waith, i ddatblygu sgiliau sy'n eu galluogi i ddod yn rhan o'r farchnad gyflogaeth, neu ailymuno â hi. Y ffocws ehangach yw meithrin cymunedau cydlynol i gryfhau'r cysylltiad rhwng pobl a lleoedd er bod addysg yn seiliedig ar dreftadaeth, yr amgylchedd, cynaliadwyedd a lles "
Mae Wild Elements yn cydweithio gydag ystod eang o bartneriaid gan gynnwys Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Gardd Fotaneg Treborth, Mantell Gwynedd a Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd i enwi dim ond rhai. Mae nifer o fyfyrwyr Bangor yn gweithio fel gwirfoddolwyr gyda nhw, ac mae'r cwmni yn cynnig rhaglen interniaeth wirfoddol er mwyn cynnig profiad gwaith i fyfyrwyr.
Mae ystod eang o weithgareddau ar gael - mae'r cwmni wedi rheoli a chwblhau sawl project yn llwyddiannus, yn cynnwys rhaglenni Ysgol Goedwig ar draws ysgolion, a digwyddiadau cymunedol. Maent hefyd yn gallu darparu cynlluniau chwarae cost isel i gael plant allan yn y goedwig i adeiladu cuddfannau, coginio ar dân, a gweithio gydag offer fel cyllyll a bwyeill a chael hwyl gyda saethyddiaeth.
Ychwanegodd Tom: "Rwy'n mwynhau fy ngwaith. Gallaf weld y gwahaniaeth mae'n ei wneud i bobl, ac rwy'n cael boddhad o hynny. Nid yw'n swydd 9 tan 5, a gall olygu oriau llawer hwy na hyn, ond mae'n werth yr holl ymdrech. Rydw i yn ceisio gwneud pethau nad ydw i wedi arfer eu gwneud, oherwydd fe all cyfleoedd godi sy'n golygu addasu i’r hyn mae ar eraill ei eisiau gan y sefydliad.
"Fy nghyngor i i unrhyw un sydd am sefydlu eu busnes neu fenter ei hun fydd gwneud yn siŵr eich bod yn manteisio ar yr holl wasanaethau sydd ar gael am ddim, a bod yn glir ynghylch yr hyn y bydd yn gwneud eich busnes chi yn llwyddiant. Ceir peryglon hefyd, ac mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pa sefydliadau rhaid i chi ymuno â nhw o safbwynt cyfreithiol, megis y Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer diogelu data, er enghraifft, os ydych yn mynd i fod yn cadw data personol am gleientiaid.
"Yn y dyfodol, y cynllun yw rheoli a gwella cyfleusterau a gwasanaethau’r cwmni. Dylai hyn wedyn wella cynaladwyedd y fenter."
Dywedodd Ceri Jones, Rheolwr Projectau Menter ym Mhrifysgol Bangor: "Drwy fanteisio ar y cymorth hyblyg sydd ar gael trwy Byddwch Fentrus wrth barhau i astudio, mae Tom yn cael boddhad o wneud yr hyn y mae wrth ei fodd yn ei wneud, yn ogystal â gallu cynnig cyfleoedd cyflogaeth i bobl eraill."
Caiff Canolfan Ranbarthol Gogledd-Orllewin Cymru ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o gyflawni Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid (YES) ar gyfer Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2015