Cyn-fyfyrwraig ar restr fer Stori Fer y BBC
Mae Lisa Blower, a raddiodd yn 2011 efo PhD o Ysgol y Saesneg Prifysgol Bangor, ac sy’n ddarlithydd rhan-amser yn yr Ysgol, yn un o bum awdur ar restr fer Gwobr Stori Fer y BBC 2013.
Mae Gwobr Stori Fer y BBC yn dathlu’r gorau o blith ysgrifennu straeon byrion ym Mhrydain. Ymysg yr awduron ar y rhestr fer mae awduron adnabyddus fel Lionel Shriever a Sarah Hall.
Mae ‘Barmouth’ yn olrhain hanes gwyliau blynyddol teulu o Stoke on Trent yn Y Bermo dros bedwar degawd, i gyd mewn wyth mil o eiriau. Mae’n defnyddio’r stori fel modd i drafod nid yn unig y daith o Stoke on Trent i’r Bermo, ond o blentyndod hyd at fod yn oedolyn.
Darllenwyd y stori ar Radio 4 ar 24 Medi, ac mae i’w chlywed ar wefan y BBC (yma), ac mae cyfweliad efo Lisa Blower ar raglen Front Row hefyd i’w glywed, eto ar eu gwefan.
Bydd canlyniad y gystadleuaeth yn cael ei gyhoeddi ar 8 Hydref.
Mae Lisa bellach yn dilyn ei gyrfa fel ysgrifennwr ac mae ganddi nofel gyda chyhoeddwyr. Fe raddiodd hyn yn 2011 ar ôl astudio Doethuriaeth mewn Ysgrifennu Creadigol a Beirniadol yn Ysgol y Saesneg. Enillodd Lisa Gystadleuaeth Stori Fer yr Haf papur newydd y Guardian yn 2009, gyda’r beirniaid a’r nofelwyr, William Boyd a Julie Myerson, yn ei dewis yn enillydd allan o dros 2,000 o geisiadau.
Croesawodd Zoë Skoulding , Darlithydd yn Ysgol y Saesneg y Brifysgol, y newyddion gan ddweud:
"Gan fy mod yn adnabod Lisa Blower tra roedd hi’n fyfyrwraig a darlithydd rhan-amser mewn ysgrifennu creadigol yn Ysgol y Saesneg, rwyf wrth fy modd clywed am ei llwyddiant yn y Wobr.
Mae hi’n ysgrifennwr ffraeth gyda chlust wych am ddeialog, ac rwy’n sicr bod ganddi yrfa lewyrchus o’i blaen ac y bydd yn derbyn mwy o gydnabyddiaeth eto.”
Dyddiad cyhoeddi: 25 Medi 2013