Cyn fyfyrwraig Bangor yn cipio'r Fedal Ddrama
Ffion Williams, cyn-fyfyrwraig Prifysgol Bangor, sydd wedi ennill Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerffili a’r Cylch 2015 mewn cystadleuaeth o safon uchel a blesiodd y beirniaid yn fawr.
Mae Ffion yn astudio gradd meistr mewn Astudiaethau Celtaidd, gan ganolbwyntio ar chwedloniaeth Gymraeg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Mae’n gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd Llanychllwydog ac Ysgol y Preseli, ac fe raddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor y llynedd.
Mae Ffion eisoes wedi profi llwyddiant ym maes y ddrama a llenyddiaeth. Fe enillodd y Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Rhyngolegol tra’n astudio ym Mangor, ac mae wedi ennill Cadair Cymdeithas Ffermwyr Ifanc Sir Benfro deirgwaith.
Tu hwnt i ysgrifennu dramâu a byw ymysg llên yr oesoedd a fu, mae Ffion yn gerddor medrus. Mae wedi bod yn aelod o Fand Pres Wdig am flynyddoedd maith ac wedi chwarae i Fandiau Pres Ieuenctid Cymru ac Ewrop. Mae wedi cystadlu ar lwyfan yr Urdd sawl tro, ac mae hi hefyd yn actores frwd.
Bwriad Ffion yw astudio doethuriaeth yn y Gymraeg, ond cyn hynny, mae’n awyddus i fyw yn y ‘byd go iawn’ am ychydig, gan weithio, os yn bosibl, ym maes y theatr a’r celfyddydau.
Mae’r Fedal Ddrama yn cael ei chyflwyno am gyfansoddi drama lwyfan un act sydd yn cymryd rhwng 40 – 60 munud i’w pherfformio. Fe gystadlodd Ffion o dan y ffug enw Liszt gyda darn o waith o’r enw Libersträume, sy’n archwilio perthynas garwriaethol rhwng athro piano a’i ddisgybl.
Yn ôl y beirniaid, Elen Bowman a Dafydd James, mae Ffion yn “ddramodydd aeddfed, theatraidd sy’n deall y grefft” ac yn “llwyr haeddu’r Fedal mewn cystadleuaeth dda.”
Meddai Dafydd James: “Dyma ddrama mwyaf cyflawn y gystadleuaeth. Mae Ffion yn deall beth yw hi i blethu naratif, cymeriadu, deialog, cerddoriaeth a ffurf i greu cyfanwaith sy'n argyhoeddi'n llwyr y medrid ei pherfformio ar lwyfan heddiw. Mae'n gwybod beth yw hi i ddatgelu gwybodaeth ddramatig mewn modd cynnil ac roeddem wedi ein cyfareddu'n llwyr gan amwysedd y berthynas ganolog. Braf hefyd oedd clywed tafodiaith y Gorllewin ac mae'r defnydd o'r gerddoriaeth a'r piano yn gelfydd.
“Mae yna ryw synnwyr bod y dramodydd yn chwarae gyda ffurf comedi, melodrama a thrasiedi; medrir gwthio hwn ymhellach. Mae hon yn ddrama grefftus sy'n adeiladu at ddiweddglo hyfryd, melancolaidd a didwyll.”
Eleni, fe ddaeth 13 o gynigion i’r fei ac roedd y beirniaid yn hapus dros ben gyda safon y gystadleuaeth.
Ychwanega Elen Bowman: “Mae ffurf y ddrama yn beth cymhleth i'w meistroli ac nid yw dramodwyr fel arfer yn aeddfedu mor gyflym â llenorion a beirdd. Rhaid iddynt feddwl, ymysg pethau eraill, am gymeriadau aml-haenog, gwrthdaro, is-destun a chynilder, tyndra dramatig, strwythur storïol, datblygiad ac uchafbwynt, ac ar ben hyn rhaid bod y script yn diddanu cynulleidfa fyw!
“Yn sgîl y gystadleuaeth hon, rydym ein dau wedi ein cyffroi wrth feddwl am ddyfodol y ddrama Gymraeg.”
O blith y 13 o gystadleuwyr, fe ddaeth pump i’r brig. Fe ddaeth Miriam Elin Jones, Aelod Unigol o Gylch Aberystwyth, Rhanbarth Ceredigion a Rhian Davies, Aelod Unigol o Gylch Llandysul, Rhanbarth Ceredigion yn gydradd ail, gyda Lara Catrin, Aelod Unigol Rhanbarth Tu Allan i Gymru a Gareth Evans-Jones, Aelwyd Unigol Cylch Eilian Rhanbarth Môn yn gydradd drydydd.
Llongyfarchiadau gwresog hefyd i Gareth Evans-Jones, myfyriwr ymchwil yn Ysgol y Gymraeg, ar ddod yn drydydd yn yr un gystadleuaeth.
Mae gan fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg record arbennig o dda yn y gystadleuaeth hon. Enillwyd hi yn 2012 gan Llyr Titus Hughes, yn 2011 gan Elin Gwyn ac yn 2010 a 2007 gan Manon Wyn Williams sydd bellach yn Ddarlithydd Sgriptio a Drama gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol y Gymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2015