Cyn-fyfyrwraig o Fangor yn Ennill Gwobr y Byd am Waith ar Fioleg Môr
Mae Elizabeth Taylor Jay, a gafodd MSc mewn Gwarchod Amgylchedd y Môr yn 1997/98 ar ôl astudio yn Ysgol Gwyddorau Eigion Bangor, wedi cael Gwobr y Byd am y Gweithrediad Gorau ar Amrywiaeth Fiolegol, 2010, yn ystod Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y Cytundeb ar Amrywiaeth Fiolegol a gynhaliwyd yn Nagoya, Japán yr wythnos ddiwethaf.
Mae Elizabeth yn gyfarwyddwr ar CORALINA, Asiantaeth Gadwraeth o eiddo Llywodraeth Colombia, sydd wedi’i lleoli yn Providencia, Colombia, y dechreuodd weithio iddi ar ôl graddio o Fangor. UCN (yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur) sy’n dyfarnu Gwobr y Byd dros Amrywiaeth Fiolegol, a nododd y cyfri’n ôl at darged 2010 ar gyfer gwarchod amrywiaeth fiolegol – targed a fethwyd o dipyn ar raddfa fyd-eang.
Dyfarnwyd y wobr hon am waith ar Ardal Warchod Forol y Blodau Môr – gwarchodfa 200,000 hectar yn y Caribî, sy’n darparu ar gyfer cymunedau pysgota, fel y gallant bysgota mewn modd cynaliadwy mewn rhai parthau, ochr yn ochr â pharthau ‘dim cymryd’, ‘dim mynediad’ a pharthau defnydd cyffredinol. Yn benodol, ceisiodd y project warchod cynefinoedd riffiau cwrel ac adfer poblogaethau o gregyn y frenhines sy’n bwysig i’r economi. Hedfanodd Elizabeth i Japán i gasglu’r wobr o flaen cynulleidfa ryngwladol yn y Gynhadledd bwysig hon ar Amrywiaeth Fiolegol, lle bu rhyw 18,000 o gyfranogwyr yn cynrychioli’r 193 o Bartïon i’r Cytundeb ar Amrywiaeth Fiolegol. Cytunodd y partïon 1) i haneru, o leiaf, y raddfa y collir cynefinoedd naturiol, yn cynnwys coedwigoedd, neu, lle bo’n ymarferol, i leihau’r raddfa honno i bron i sero; 2) i bennu targed o 17% o fannau daearol ac o ddŵr mewndirol, a 10% o ardaloedd morol ac arfordirol; 3) y bydd Llywodraethau, trwy gadwraeth a gwaith adferol, yn adfer o leiaf 15% o fannau sydd wedi dirywio; 4) y bydd Llywodraethau’n ymdrechu’n benodol i leihau’r pwysau a wynebir gan riffiau cwrel.
Cefnogwyd Elizabeth gan Adran y DU dros Ddatblygu Rhyngwladol, trwy’r Cyngor Prydeinig, i astudio ar gyfer yr MSc mewn Gwarchod Amgylchedd y Môr (MEP), a bu’n cynnal ei phroject ymchwil project ar fapio cynefinoedd ecosystemau cwrel ym morlynnoedd Mawrisiws, Cefnfor India, Dr John Turner a’r Athro Colin Jago o’r Ysgol Gwyddorau Eigion.
Meddai John Turner, Cyfarwyddwr y Cwrs MEP: “Mae hon yn gamp glodwiw gan Elizabeth a’i thîm yn CORALINA, ac mae’n bleser gennym ei llongyfarch ar broject neilltuol a gydnabyddir yn fyd-eang. Mae’n wych gweld ein graddedigion yn weithgar mewn mentrau cadwraeth penigamp sydd nid yn unig yn gwarchod ecosystemau riffiau cwrel biolegol amrywiol, ond hefyd yn fodd i bobl leol ennill bywoliaeth.”
Mae staff Gwyddorau Eigion, myfyrwyr PhD a myfyrwyr MSC Amddiffyn Amgylchedd y Môr wrthi ar hyn o bryd yn ymwneud â nifer o raglenni sydd â’r bwriad o warchod amrywiaeth fiolegol y môr mewn ecosystemau trofannol. Mae’r rhain yn cynnwys projectau newydd ar Fannau Gwarchod Morol Cymunedol yn Nheyrnas Tonga, y Môr Tawel; project Menter Darwin i wella Mannau Gwarchod Morol Sefydledig yn Ynysoedd y Cayman, y Caribî; a phroject DelPHE/UNESCO-UNITWIN mewn bioamrywiaeth forol a datblygiad cynaliadwy yn Sansibar, Cefnfor India. Gwnaeth 3 myfyriwr MSc eu projectau ymchwil yn Tonga, ochr yn ochr â’r myfyriwr PhD Siola'a Mali Mali, gyda Dr John Turner a’r Athrawon Mike Kaiser a Gareth Edwards Jones (SENERGY); bu tri myfyriwr MSc yn gweithio yn Ynysoedd y Cayman yn 2009 a 2010, ochr yn ochr â’r myfyriwr PhD Croy McCoy a John Turner, a bydd dau fyfyriwr MSc yn cynnal projectau yn Sansibar yr haf hwn, gyda Dr Turner, DR LeVay a Dr Skov.
Meddai Dr John Turner, “Mae’r rhaglenni hyn yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i’n myfyrwyr MSc wneud ymchwil gymhwysol i fioamrywiaeth y môr, gan weithio ar y cyd ag asiantaethau cadwraeth ac adrannau llywodraeth gwledydd tramor; trwy hyn, cânt brofiad gwych ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus a champau neilltuol o dda, fel a ddangoswyd gan Elizabeth Taylor Jay.”
Mwy o wybodaeth am wobr Elizabeth Taylor Jay
Mwy o wybodaeth am gyfarfod CBD 2010
Mwy o wybodaeth am broject Bangor ar gadwraeth forol:
Mwy o wybodaeth am y cwrs MSc mewn Gwarchod Amgylchedd y Môr:
Dyddiad cyhoeddi: 2 Tachwedd 2010