Cyn-fyfyrwyr yn ymweld â Safle’r Santes Fair 60 mlynedd ers dechrau yno
Bu 13 o gyn-fyfyrwyr yn ymweld â phentref llety Santes Mair ar ei newydd wedd yn ddiweddar. Yn ogystal â mwynhau hel atgofion am yr hen ddyddiau, roeddent hefyd wrth eu bodd yn gweld sut mae'r safle wedi cael ei ddatblygu'n ddiweddar gan y brifysgol.
Roedd y grŵp o ffrindiau i gyd yn gyn-fyfyrwyr yng Ngholeg Santes Fair, Coleg Hyfforddi Athrawon, a ddaeth yn rhan o Brifysgol Bangor yn ddiweddarach.
Mae'r criw yn cyfarfod bob blwyddyn ac eleni gwnaethant benderfynu dod i Fangor i nodi 60 mlynedd ers y tro cyntaf iddynt ddod i astudio yn Santes Fair.
Croesawyd pawb ar y safle gan Ken Griffith, Pennaeth y Neuaddau Preswyl a Deirdre McIntyre, Rheolwr Bywyd Preswyl. Cawsant gyflwyniad byr yn Acapela, yr hen gapel a ddefnyddir yn awr i gynnal digwyddiadau ffurfiol ac anffurfiol a dangos ffilmiau, cyn cael taith fer o amgylch y safle.
Roedd ganddynt lu o atgofion i'w rhannu!
Daeth y criw i'r coleg dim ond 12 mlynedd ar ôl diwedd yr ail ryfel byd, ac roedd ganddynt ddisgwyliadau gwahanol iawn o gymharu â myfyrwyr heddiw ac roeddent yn byw yn ôl rheolau hollol wahanol.
Disgrifiodd y merched sut yr oedd rhaid iddynt fod adre cyn 10.30 bob nos, er nad oedd dawnsfeydd y brifysgol yn mynd i hwyl tan lawer hwyrach! Roeddent yn cofio mynd i ddangosiad arbennig o'r ffilm 'Gone with the Wind' ar brynhawn Mercher yn y sinema leol, gan fod y ffilm epig mor hir a ddim yn gorffen tan ar ôl 10.30!
Roedd y penwythnosau'n cynnwys mwynhau cocoa poeth a theisen eisin bob nos Sadwrn am 9 o'r gloch ac yn gorfod mwynhau, neu ddioddef, sesiwn ganu orfodol yn ystod eu hamser 'rhydd' fore Sadwrn!
Rhannodd y genod straeon amdanynt yn torri mân reolau fel mynd i gwrdd â chariadon neu fynd i neuaddau dawns oedd wedi eu gwahardd, er enghraifft y 'Jimmy's Hops' a gynhaliwyd bob nos Fawrth a nos Iau mewn caban pren ar Allt Glanrafon. Dim ond chwe cheiniog oedd y tâl mynediad i'r dawnsfeydd poblogaidd hyn.
Yn ogystal â chael rheolau a rheoliadau llawer llymach, roedd y llety yn llawer mwy sylfaenol nag y mae heddiw. Roedd y criw yn cofio'r hyn a elwid yn 'wagenni ceffylau', sef un ystafell fawr wedi ei rhannu gan bartisiynau pren i greu wyth o ystafelloedd gwely bach. Roedd rhai myfyrwyr yn byw mewn 'digs' gyda theuluoedd lleol ond yn dal gorfod mynd i fyny'r allt i'r coleg i gael brecwast am 8.00. Ar ddydd Sul, roedd wyau i frecwast ond ni ellid eu bwyta hyd nes bod prifathrawes y coleg wedi cynnal y cymun a dweud pader yn Lladin yn gyntaf. Uchafbwynt gweddill y dydd Sul fyddai mynd am dro i'r pier gan fod popeth arall wedi cau!
Wrth ymweld â'r Barlows newydd, meddai Dilys Knott, (ne Jones): "Mae gen i atgofion hapus iawn, mae'n bosib dychmygu popeth fel yr oedd ac eto mae popeth wedi newid, ond mae wedi cael ei addasu'n hyfryd."
Meddai Barbara Davies: "Wnes i fwynhau bob munud, roeddem yn cael darlithoedd drwy'r dydd bob dydd ac ar fore Sadwrn. Roeddwn mor hapus yma - roeddem yn dod o gefndiroedd strict, yn fabanod y rhyfel a dweud y gwir."
Dywedodd Anne Jones (Browning):
"Roeddem wedi gadael cartref i ddod i amgylchedd lled-ddiogel, ond roeddem yn meddwl bod gennym gymaint o ryddid - rwy'n cofio prynu trowsus a ddim yn cael ei wisgo tu allan i'r tŷ pan oeddwn adre."
Roedd un ohonynt, Denise Shorthall (Wilson) dair blynedd yn hŷn na'r gweddill ac wedi bod yn gweithio ac ennill cyflog ers pum mlynedd, ac felly'n gallu fforddio ychydig o hobïau. Roedd hi'n arloesi fel un o'r ychydig ferched ifanc oedd yn dringo, ac roeddent yn ei chofio hi'n cyrraedd Bangor ar sgwter, yn cario sgis gyda rhaff ddringo am ei chanol!
Ffurfiodd Denise y clwb dringo cyntaf i ferched yng Ngholeg y Santes Fair, gan ymuno â chlwb dringo a mynydda'r brifysgol.
Eglurodd Alice Williams (Milner yn awr), aelod arall o'r Clwb Dringo (a threfnydd yr aduniad) fod mynd i ddringo yn golygu dal y bws 8am i Fethesda a cherdded i fyny'r dyffryn i'r mynyddoedd ac yn ôl. Roedd hyn ar ben diwrnod o ddringo, yn cario offer a rhaffau oedd llawer trymach bryd hynny, ac yna os byddent yn lwcus, dal y bws yn ôl i Fangor!
Yn debyg i nifer o fyfyrwyr presennol Prifysgol Bangor, dewisodd Denise astudio ym Mangor oherwydd ei bod yn gallu mynd i'r mynyddoedd a chael cyfle i wneud y chwaraeon roedd hi'n eu mwynhau.
Rhes gefn o'r chwith i'r dde yn y llun: Carol Pullen, (Salmon yn awr) Nona Carter, (Grimshaw yn awr) Chris Rees (Worthington yn awr), Margaret Lupton, Anne Browning (nee Jones), Larry Roberts (Shaw yn awr) Annis Williams (Milner yn awr), Pat Harries.
Rhes flaen o'r chwith i'r dde: Dilys Knott (Jones) Winifred Thomas (Henderson, Pam Lewis (Roberts) Denise Shorthall (Wilson) Barbara Quornby (Davies)
Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2017