Cyn-weithiwr BT yn falch o’i gradd
Mae ysgrifenyddes ymchwil ym Mhrifysgol Bangor wedi gwireddu ei breuddwyd o ennill gradd.
Bydd Michelle Williams, 35, o Borthaethwy yn graddio gyda BA Astudiaethau Cyfun o’r Ysgol Dysgu Gydol Oes.
Yn dilyn cwblhau ei Lefel A yng Ngholeg Menai, gweithiodd Michelle i gwmni BT fel cysylltydd ffôn 100 a 999. Yn dilyn hynny ymunodd â'r RAF am gyfnod ond nid oedd yr yrfa honno wrth ei bodd a dychwelodd adref i weithio i bapur newydd lleol y Chronicle, yn gwerthu hysbysebion. Aeth Michelle ymlaen i swydd arall yn gwerthu cyllid cyn ei phenodi saith mlynedd yn ôl i’w swydd bresennol fel ysgrifenyddes a swyddog cymorth sicrwydd ansawdd yn Sefydliad Gogledd Cymru ar gyfer Hap-Dreialon Iechyd (NWORTH), sy'n rhan o'r Sefydliad Ymchwil Gofal Meddygol a Chymdeithasol (IMSCAR).
Meddai Michelle: "Ar ôl canlyniadau siomedig yn fy arholiadau Lefel A 17 mlynedd yn ôl, wnes i erioed ddychmygu y byddwn i'n graddio o Brifysgol.
"Yn ogystal â gweithio'n llawn-amser yn y Brifysgol, roeddwn hefyd yn gweithio’n rhan-amser i ddosbarthwr offer swyddfa lleol ar y penwythnosau. Roedd yn anodd iawn gwneud amser i’r dosbarthiadau nos yn yr Ysgol Dysgu Gydol Oes, gwneud y gwaith i’r holl aseiniadau a chael bywyd gartref. Ond mae’n rhaid i mi ddweud ei bod wedi bod yn werth yr ymdrech gan y byddaf yn graddio heb ddyled.
"Ar gyfer fy nhraethawd hir, fe wnes i gynnal arolwg ar-lein o'r enw: Making my skin crawl. Bwriad y project oedd profi a oedd datganiadau a wnaed gan y newyddiadurwr Tony Parsons mewn erthygl a gyhoeddwyd yn y Daily Mail - ‘Making my skin crawl: tattoos scream for attention’- yn wir ai peidio. Yn ogystal â rhoi ei ddamcaniaethau ar brawf gwnes i hefyd geisio sefydlu a oes unrhyw wahaniaethau rhwng pobl sydd â thatŵ a phobl heb datŵ o ran y 5 nodwedd personoliaeth fwyaf amlwg yn ogystal â nodweddion byrbwylltra a cheisio gwefr .
"Uchafbwynt fy astudiaethau oedd ysgrifennu fy nhraethawd hir. Roedd yr ymateb a gefais i’r arolwg ar-lein yn anhygoel ac roedd y canlyniadau’n foddhaol iawn a dweud y lleiaf.
"Mis cyn fy nyddiad cyflwyno, cefais ddamwain eirafyrddio ac roeddwn ar faglau am wythnosau. Nid oeddwn yn gallu eistedd wrth ddesg i ysgrifennu, ond diolch byth cefais fenthyg gliniadur gan Wasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol a olygai ei bod yn bosib i mi ysgrifennu fy nhraethawd hir ar fy soffa.
"Rwy'n gobeithio bydd ennill gradd yn fy ngalluogi i ddatblygu fy ngyrfa yn yr Uned a fy nod ar gyfer y dyfodol yw cwblhau MRes mewn Seicoleg.
"Rwy'n ddiolchgar iawn i fy holl gydweithwyr yn NWORTH (Sefydliad Gogledd Cymru ar gyfer Hap-Dreialon Iechyd) sydd wedi fy nghefnogi drwy gydol y radd."
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014