Cyngherddau amser cinio - am ddim!
Mae Prifysgol Bangor wedi agor ei ddrysau i amrywiaeth o gyngherddau am bron i gan mlynedd. Mae'r gyfres gyngherddau Cerddoriaeth ym Mangor yn dod ag oddeutu deg ar hugain o gyngherddau i Fangor yn ystod y flwyddyn academaidd: cymysgedd amrywiol o gyngherddau ar gyfer ensembles siambr i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.
Yn ddiweddar mae'r Brifysgol wedi cyflwyno cyfres gyngherddau amser cinio sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr berfformio mewn lleoliad mwy ffurfiol. Cynhelir y cyngherddau amser cinio pob dydd Mawrth am 1 pm yn Neuadd Powis. Estynnir croeso cynnes i’r cyhoedd fynychu’r cyngherddau di-dâl hyn.
Derbyniwyd cyngherddau mis Hydref yn dda iawn lle cafwyd perfformiadau gan Gymdeithas Gerdd y Brifysgol, Pumawd Chwyth y Brifysgol a hefyd dosbarth trwmped o dan arweiniad Chris Williams.
Bydd perfformiadau Tachwedd yn dechrau ar y 1af gyda’r Gymdeithas Gerdd, yna fe'u dilynir gan ddosbarth clarinét Sioned Roberts ar yr 8fed, dosbarth piano gyda Jenny Jones, Gary O'Shea, Xenia Pestova a Teleri-Sian ar y 15fed, bydd y Gymdeithas Gerdd yn dychwelyd ar y 22ain ac yna bydd dosbarth ffidil gydag Edward Davies a Rosie Skelton yn ogystal â dosbarth sielo gyda Nicola Pearce ar y 29ain.
"Mae'r cyngherddau yn cael eu trefnu gan yr athro "dosbarth"- er enghraifft, ceir perfformiad gan bianyddion ar 15fed o Dachwedd, ac yna ceir cyngherddau ar wahân ar gyfer chwaraewyr trwmped, chwaraewyr llinynnol, ac yn y blaen. Trwy fynychu’r cyngherddau amser cinio hyn, bydd y cyhoedd yn cael cyfle i ddarganfod beth mae myfyrwyr yn gweithio ar, a bydd hefyd yn rhoi profiad perfformio amhrisiadwy i’r myfyrwyr yn ogystal â rhoi’r cyfle iddynt rannu eu cerddoriaeth yn y gymuned maent bellach yn rhan ohoni." meddai Dr Xenia Pestova, Pennaeth Perfformiad yn yr Ysgol Gerddoriaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2011