Cynhadledd Arddangos Ymchwil Iechyd a Meddygol
Yn ddiweddar cynhaliodd Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) eu cynhadledd ar y cyd gyntaf i arddangos eu gwaith ymchwil. Rhoddodd yr achlysur sylw i ddiddordebau ymchwil presennol yn y ddau sefydliad a'r nod oedd ceisio creu cyfleoedd am fwy o gydweithio mewn ymchwil yn y rhanbarth. Cofrestrodd 110 o gynadleddwyr i'r gynhadledd a chyflwynwyd 50 o grynodebau ymchwil, a oedd yn cynnwys cynhadledd bosteri.
Agorwyd y gynhadledd gan Yr Athro Ruth Boaden, Cyfarwyddwr y National Institute for Health Research CLAHRC rhwng Prifysgol Manceinion a phob un o'r 10 Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol a sefydliadau GIG eraill ym Manceinion Fwyaf. Siaradodd yr Athro Boaden am y sialensiau a'r cyfleoedd a geir wrth ddatblygu cynlluniau cydweithio strategol rhwng y gymuned Addysg Uwch a gwahanol gyrff iechyd cyhoeddus, a chyfeiriodd at sawl agwedd a fyddai o gymorth i hwyluso gwaith y brifysgol gyda'r bwrdd iechyd lleol.
Roedd y gynhadledd ymchwil wedi ei llunio o amgylch tair ffrwd o gyflwyniadau gydag ymchwilwyr yn cyflwyno eu diddordebau amrywiol, o ymchwil sylfaenol i ymchwil gymhwysol. Rhoddwyd sylw i bynciau ymchwil hynod amrywiol megis ffactorau genetig mewn canser, dulliau diagnostig, asesiadau effeithlonrwydd dulliau triniaeth, asesiadau ymyriadau iechyd a thriniaeth, ymchwil seicolegol, ymchwil gymdeithasol yn ymdrin â pholisi ac ymarfer, a phortffolio helaeth o ymchwil mewn economeg iechyd ar draws ymyriadau, gofal a dulliau gweithio.
Ochr yn ochr â'r rhaglen wyddonol, cyflwynodd Sefydliad Gogledd Cymru ar gyfer Hap-dreialon Iechyd raglen yn canolbwyntio ar yr isadeiledd ymchwil sydd ar gael eisoes yn y rhanbarth. Mae hwn yn cynnig cefnogaeth sylweddol a phwysig i ymchwil iechyd a meddygol, o gefnogaeth i ddatblygu treialon i gyfleusterau ymchwil craidd yn y prifysgolion a chyfleoedd masnachol drwy gyfleusterau newydd, megis Parc Gwyddoniaeth Menai.
Arweiniwyd sesiwn derfynol y gynhadledd gan Dr Ruth Hussey, , a chanmolodd amrywiaeth ac ansawdd yr ymchwil sy'n cael ei gwneud yng Ngogledd Cymru a'r pwyslais ar ei natur gymhwysol a'r potensial i ddylanwadu ar ddatblygiadau pwysig.
Mae'r gynhadledd yn garreg filltir yn natblygiad cysylltiadau'r brifysgol â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae'n ddilyniant i weithdy ar ddatblygu strategol a gynhaliwyd yn gynharach yn yr haf i ystyried y cyfleoedd ar gyfer cydweithio rhwng y ddau sefydliad yn y dyfodol. Mae'r ddau sefydliad eisiau hybu cydweithio a chyfleoedd ar y cyd er mwyn adeiladu sefydliadau cryfach a rhoi cefnogaeth bellach i ddylanwad a datblygiad ymchwil o safon uchel yn y ddau sefydliad. I gael gwybod am ddatblygiadau yn y dyfodol, cysylltwch â Chris Drew c.drew@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Hydref 2015