Cynhadledd Astudiaethau Almaenaidd yn cyflwyno Alexander Kluge i Gymru
Pleser mawr i'r Adran Ieithoedd a Diwylliannau Modern ym Mhrifysgol Bangor oedd cynnal cynhadledd flynyddol yr Association for German Studies in Great Britain and Ireland (AGS)ar 29-31 Awst 2018. Daeth oddeutu 80 o ysgolheigion ac ymchwilwyr ôl-radd ym maes Astudiaethau Almaenig o bob rhan o Brydain, Yr Almaen, Awstria a'r Unol Daleithiau i'r gynhadledd, a chroesawyd panelau yn amrywio o Astudiaethau Canoloesol i hanes, llenyddiaeth a ffilm cyfoes. Roedd y panel arweiniol, a alwyd yn 'Anniversary Capital', yn ymchwilio i bwysigrwydd gweithgaredd pen-blwyddi yn ymwneud â dyddiadau hanesyddol a'r diddordeb cynyddol yn y maes hwnnw. Ymdriniwyd hefyd â'r ffyrdd y gall pen-blwyddi o'r fath fod yn gyfryngau posib i ysgolheigion Almaenig gysylltu â chynulleidfaoedd sy'n siarad Saesneg,
Uchafbwynt y gynhadledd oedd 'Collage Amlgyfrwng' gan Alexander Kluge, a dderbyniodd y gwahoddiad i fod yn Westai'r Llywydd yn AGS 2018. Daeth Kluge, un o leisiau deallusol amlycaf yr Almaen, yn adnabyddus yn nechrau'r 1960au fel awdur a chyfarwyddwr ffilm. Daeth yn lladmerydd a gwneuthurwr ffilmiau dylanwadol i'r 'Sinema Almaenig Newydd' yn y 1970au, ac mae wedi derbyn holl wobrau pwysig Yr Almaen am lenyddiaeth, yn ogystal â gwobrau ffilm yn Fenis, Cannes a Berlin. Ar union adeg y gynhadledd, mewn gwirionedd, roedd yn cyflwyno ei ffilm newydd, Happy Lamento, yng Ngŵyl Ffilm Fenis.
Er i Kluge fethu â dod i Fangor yn bersonol, cydweithredodd yn hael â'r gynhadledd ymlaen llaw, gan ymateb yn hynod greadigol i'r thema 'Anniversary Capital'. Darparodd nifer fawr o ffilmiau munud a thestunau, a recordiodd gyfweliad â Dr Sarah Pogoda (Darlithydd mewn Almaeneg ym Mangor) ychydig wythnosau cyn y gynhadledd. O ystyried y cyfoeth o ddeunyddiau a ddarparwyd gan Kluge, yn ystod achlysur pwysig cyflwyno Gwestai'r Llywydd fe lansiwyd arddangosfa bythefnos a gyflwynodd waith Alexander Kluge i gynulleidfa Gymraeg am y tro cyntaf. Mae'r arddangosfa, a'r llyfryn dwyieithog i gyd-fynd â hi, i'w gweld ar y wefan 'Goleudai i Ddyfodiant'ac mae'r cyfweliad fideo (mewn Almaeneg) ar gael ar wefan yr AGS.
Roedd y gynhadledd yn nodedig hefyd am y panelau niferus a ymdriniodd â lle a phwysigrwydd Astudiaethau Almaenig heddiw, gyda llawer o drafodaethau'n edrych ar ffyrdd y gellir ymestyn y cwricwlwm a rhoi mwy o bersbectif cymharol iddo. Clywodd y panel llawn 'ysgolion a rhwydweithiau' hefyd gan athrawon ysgol Almaeneg, gyda'r nod o gryfhau cydweithio rhwng y sectorau uwchradd a thrydyddol. Rhoddodd cyflwyniadau gan Gynllun Mentora Myfyrwyr yr Ysgol Ieithoedd Moderna'r Think German Networks Initiative, a gefnogir gan Lysgenhadaeth Yr Almaen, enghreifftiau o'r gwaith rhagorol sydd eisoes yn digwydd o fewn y cyd-destun hwn.
Dywedodd Dr Anna Saunders, un o drefnwyr y gynhadledd, 'iddi fod yn bleser cynnal cynhadledd mor fywiog. Cafwyd cyfuniad rhagorol o banelau amrywiol ac ysgogol, ynghyd ag Alexander Kluge fel gwestai'r Llywydd, a hefyd fesur mawr o heulwen Cymreig godidog.’
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2018