Cynhadledd bwysig ar y gwyddorau cymdeithasol yn dod i Fangor
Bydd un o’r digwyddiadau pwysicaf yng nghalendr y gwyddorau cymdeithasol ar gyfer pobl sy’n ymwneud â materion cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru yn teithio i Fangor wythnos nesaf.
Bydd trydedd cynhadledd flynyddol Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn dwyn ynghyd ymchwilwyr y gwyddorau cymdeithasol, gwleidyddion, myfyrwyr ôl-raddedig a chynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus i archwilio themâu amserol sy’n effeithio ar gymdeithas yng nghyd-destun datganoli, lle a newid.
Bydd yr ystod eang o themâu sy’n cael sylw yn y gynhadledd ddeuddydd yn adlewyrchu ymchwil ryngddisgyblaethol WISERD. Maent yn cynnwys: Marchnadoedd Llafur yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, Amgylchedd a Chynaliadwyedd yng Nghymru, Iechyd a Gofal, Hunaniaeth a Lle, Damcaniaeth ac Arfer Datganoli, Tlodi ac Ethnigrwydd, Addysg a Phlant yng Nghymru, Mudo a Symudedd, Troseddu a Throseddeg, a Dinasyddiaeth ac Iaith.
Bydd tri phrif siaradwr gwadd uchel eu proffil i’w gweld yn y rhaglen sy’n cynnwys dros 55 araith a thrafodaeth o gwmpas y bwrdd, sef: y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Yr Athro John Curtice o Brifysgol Strathclyde a’r gwleidydd o Gosta Rica a’r cyn ymgeisydd arlywyddol Ottón Solís.
Bydd araith flaenllaw yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ar sut i ddeddfu ar gyfer cynaliadwyedd yn agor y gynhadledd. Meddai Cyfarwyddwr WISERD, yr Athro Gareth Rees: ”Rydym yn falch iawn o groesawu unigolyn mor uchel ei barch i gynhadledd WISERD. Mae Dafydd Elis-Thomas yn un o’r ffigurau amlycaf yng ngwleidyddiaeth gyfoes Cymru ac rwy’n siŵr y bydd ei gyfraniad yn ddeallus ac yn gwneud i ni feddwl”.
I lansio’r digwyddiad, byddwn yn cynnal noson arbennig o farddoniaeth noswyl y gynhadledd gyda’r beirdd lleol enwog, Menna Elfyn a Zoe Skoulding, yn cyflwyno’u gwaith o dan y teitl ‘Ffin a Frontier’.
Mae WISERD yn fenter gydweithredol rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Morgannwg ac Abertawe. Fe’i hariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a Chyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y DU (ESRC), ac mae WISERD wedi sefydlu ei hun fel canolfan flaenllaw ar gyfer rhagoriaeth mewn ymchwil i’r gwyddorau cymdeithasol ers ei chreu yn 2009.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2012