Cynhadledd Hanes a Diwylliant Cymru Cymdeithas Gogledd America yn dod i Gymru
Cynhelir cynhadledd ddwyflynyddol Hanes a Diwylliant Cymru Cymdeithas Gogledd America (NAASWCH) ym Mhrifysgol Bangor, sef dim ond yr ail waith i’r gynhadledd gyfarfod tu allan i Ogledd America. Yn draddodiadol cynhelir y gynhadledd yn yr Unol Daleithiau a Chanada rhwng 26 a 28 Gorffennaf a dim ond unwaith o’r blaen y mae wedi dod i Gymru.
Prif themâu’r gynhadledd fydd y cysylltiadau diwylliannol sydd wedi eu hen sefydlu rhwng Cymru ac America, yn cynnwys profiad cymunedau Cymraeg yng Ngogledd America. Trefnir y gynhadledd gan yr Athro Tony Brown o Ysgol Saesneg Prifysgol Bangor a Dr Andrew Edwards o Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg y Brifysgol.
Meddai’r Athro Brown ‘Mae’n brawf o rôl arweiniol Prifysgol Bangor yn datblygu ysgolheictod Cymraeg o ansawdd ryngwladol bod cynhadledd NAASWCH yn cael ei chynnal yma, gyda nifer o ffigurau amlwg yn eu meysydd yn cymryd rhan. Rydym yn edrych ymlaen at yr hyn a ddylai fod yn gynhadledd ragorol ac ysgogol.
Dywedodd Edwards, ‘Rydym yn falch iawn gyda’r ymateb i’r gynhadledd o bob ochr i’r Iwerydd, yn arbennig yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn. Roeddem eisiau cynhadledd a oedd yn arddangos y cyfoeth o waith academaidd sy’n canolbwyntio ar Gymru, ac o ystyried ansawdd y papurau, credaf ein bod yn bendant wedi cyflawni hynny’.
Mae’r gynhadledd wedi denu dros 80 o ysgolheigion o bob ochr i’r Iwerydd i drafod ystod eang o bynciau yn amrywio o farddoniaeth yr oesoedd canol i'r ffordd y caiff Cymru ei chyflwyno mewn ffilmiau a theledu cyfoes, o Daniel Defoe a Samuel Johnson yn ystod y ddeunawfed ganrif yng Nghymru i lenyddiaeth gan ferched yng Nghymru o'r ddeunawfed ganrif i'r presennol. Mae’r pynciau llenyddol yn cynnwys set o bapurau ar R.S. Thomas. Hefyd bydd darlleniadau o farddoniaeth yn Gymraeg a Saesneg gan awduron arobryn fel Angharad Price, Jason Walford Davies, Zoe Skoulding ac Ian Gregson.
I gael rhagor o fanylion ynglŷn â chofrestru a bod yn bresennol yng nghynhadledd NAASWCH cysylltwch â Dr Mari Elin Wiliam trwy e-bost yn hisa05@bangor.ac.uk neu drwy ffonio 01248 382144. Gellir gweld rhaglen y gynhadledd ar wefan NAASWCH www.naaswch.org
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2012