Cynhadledd ôl-raddedigion Bangor: ‘Tu Hwnt i Ffiniau 2011 – Trawsnewid’
Hon oedd pumed flwyddyn y gynhadledd Tu Hwnt i Ffiniau a llwyddodd i dynnu ôl-raddedigion Bangor o wahanol ddisgyblaethau at ei gilydd ar gyfer cynhadledd ryfeddol a phrofiad gwerthfawr o ymwneud â phobl o lawer o wahanol feysydd. Unwaith eto llwyddodd y gynhadledd hon, a drefnir gan y Fforwm Myfyrwyr Ymchwil a’i chefnogi gan yr Uned Datblygu Academaidd a swyddfa’r Is-Ganghellor, i’n tynnu oddi wrth ein meysydd ymchwil cyfyng a rhannu ein profiadau gan elwa yr un pryd oddi wrth brofiadau eraill.
Gyda ‘trawsnewid’ yn thema’r gynhadledd, derbyniodd y pwyllgor dewis papurau bron ddwywaith gymaint o grynodebau ag yr oedd o leoedd cyflwyno, gan eu galluogi i ddewis papurau o safon uchel ar gyfer y tair sesiwn: ‘Teuluoedd mewn trawsnewid’, ‘Profiadau trawsnewidiol, dulliau trawsnewidiol’ a ‘Gender, dosbarth a hunaniaethau mewn trawsnewid’.
Eleni pleidleisiodd y cynadleddwyr dros roi’r Wobr Papur Gorau (£50) i Wulf Livingstone (Ysgol Gwyddorau Cymdeithas). Yn ei bapur ‘Random Control Trial to Biographical Narratives – Design and Methodological Transition’ pwysleisiodd yr angen i ni archwilio llenyddiaeth a phrofiadau y tu allan i’n disgyblaethau ein hunain er mwyn gwneud cynnydd gwirioneddol mewn ymchwil: sef union neges cynadleddau Tu Hwnt i Ffiniau.
Fel yn 2010, cyn diwrnod y cyflwyniadau (Gwener 21 Ionawr) cafwyd gweithdai ar y dydd Iau gyda’r nod o helpu ymchwilwyr i reoli’r trawsnewidiadau anodd yn aml a geir wrth ymwneud ag ymchwil. Roedd y pynciau’n cynnwys ‘Presentations - The transition from research idea to the real world’ - Penny Dowdney (Swyddfa Ymchwil ac Arloesi), ‘Reiki Healing’ - Keith Beasley (Ysgol Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol), ‘Tibetan Yoga’ - Dusana Dorjee (Canolfan Yoga Tibetaidd a’r Ysgol Seicoleg) a ‘Mindfulness’ - Mariel Jones (Canolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar). Roedd llawer mwy yn bresennol eleni o’i gymharu â’r llynedd ac mae’n amlwg bod pynciau o’r fath yn cael eu gwerthfawrogi’n gynyddol gan ôl-raddedigion.
Rhwng ddau ddiwrnod y gynhadledd roedd BUTT (Bangor University Transcending Thought) wedi trefnu darlith arbennig o ysbrydoledig, sef ‘2012, The Confluence of Two Rivers: Shamanism and Science’, gyda’r Athro Nick Clements. Fe wnaeth ei sylwadau ysgogi pawb a’i clywodd i feddwl a chafodd Nick a’i destun ‘Trawsnewidiol’ groeso cynnes gan y gynulleidfa werthfawrogol.
Yn ogystal â’r gynhadledd flynyddol hon, mae’r RSF yn rhoi cefnogaeth allweddol i fyfyrwyr ôl-radd trwy ddigwyddiadau cymdeithasol a chynrychiolaeth ar gyrff Prifysgol. Mae holl ôl-raddedigion (ymchwil) yn perthyn i’r grŵp yn awtomatig. I awgrymu gweithgareddau, cynnig eich help, neu os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â ni ar rsf@bangor.ac.uk
Adroddiad gan Gadeirydd RSF, Keith Beasley
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2011