Cynhadledd Prifysgol am archwilio dyfodol y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru
Bydd cynhadledd ym Mhrifysgol Bangor yn archwilio goblygiadau deddf newydd hanesyddol i drawsnewid y gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad undydd, a gynhelir yn Neuadd Reichel, Bangor, ddydd Gwener, 4 Gorffennaf yn gwahodd academyddion, ymchwilwyr, cynrychiolwyr o'r llywodraeth ac ymarferwyr gwasanaethau cymdeithasol a rheolwyr i drafod a gwerthuso effaith bosibl Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a ddaeth i rym 1 Mai 2014.
Mae'r Ddeddf yn cynrychioli'r datblygiad mwyaf sydd wedi digwydd ym maes gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ers dros 60 mlynedd. Bydd yn rhoi fframwaith cyfreithiol cydlynol i'r sector a disgwylir iddo drawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, yn hyrwyddo annibyniaeth pobl trwy roi llais cryfach iddynt a rhagor o reolaeth. Bydd hefyd yn annog ffocws newydd ar atal ac ymyrraeth gynnar.
Bydd y gynhadledd ddwyieithog hon, a gynhelir ac a noddir gan Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Bangor ac a gyd-noddir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Menter Gydweithredol Academaidd Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol (ASCC), yn ystyried y goblygiadau o nifer o wahanol safbwyntiau a dehongliadau. "Mae hwn yn gyfle gwych i ymarferwyr, rheolwyr, myfyrwyr, darlithwyr ac eraill sy'n gysylltiedig â'r maes i ystyried dyfodol gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, yn wyneb y ddeddf arloesol newydd hon," meddai Malcolm John, darlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol ym Mangor a chyd-drefnydd y digwyddiad. "Edrychwn ymlaen at groesawu cynadleddwyr o bob rhan o Gymru i'r brifysgol i glywed safbwyntiau a barn rhai o'r prif arbenigwyr yn y maes."
Ymysg y siaradwyr yn y gynhadledd fydd Hywel Williams, AS Arfon; Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru; Rhian Huws Williams, Prif Weithredwr Cyngor Gofal Cymru; Mike Lewis, darlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd; yr Athro Peter Huxley o'r Ganolfan i Ymchwil Gwaith Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe; Gwen Carrington, Cyfarwyddwr Cymunedol Cyngor Sir Ynys Môn; a Morwena Edwards, Pennaeth yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Hamdden, Cyngor Gwynedd.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2014